Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Beibl I BlantSampl

Beibl I Blant

DYDD 4 O 8

Amser maith yn ôl, anfonodd Duw yr angel Gabriel at Iddewes ifanc o’r enw Mair. Dywedodd wrthi, “Byddi’n cael mab, ac rwyt i roi’r enw Iesu arno. Bydd yn cael ei alw’n Fab y Goruchaf. Bydd yn rheoli am byth.”

“Sut mae hyn yn bosib?” gofynnodd y ferch mewn syndod. “Does gen i ddim gŵr.” Dywedodd yr angel wrth Mair y byddai’r plentyn yn dod oddi wrth Dduw, ac nid trwy dad dynol.

Yna dywedodd yr angel wrth Mair fod ei chyfnither Elisabeth yn cael babi er ei bod hi’n hen. Roedd hyn yn wyrth hefyd. Yn fuan wedyn aeth Mair i weld Elisabeth. Dyma nhw’n moli Duw gyda’i gilydd.

Roedd Mair wedi ei dyweddïo gyda dyn o’r enw Joseff. Roedd Joseff yn drist pan glywodd fod Mair yn cael babi. Roedd e’n meddwl mai dyn arall oedd y tad.

Dywedodd angel Duw wrth Joseff mewn breuddwyd mai Mab Duw oedd y plentyn. Roedd angen i Joseff helpu Mair i ofalu am Iesu.

Fe wnaeth Joseff drystio Duw ac ufuddhau iddo. Fe wnaeth e hefyd ufuddhau i gyfraith gwlad.

Oherwydd cyfraith newydd, aeth Joseff a Mair i dref teulu Joseff, Bethlehem, i dalu eu trethi.

Roedd hi’n amser i Mair eni ei phlentyn. Ond doedd Joseff ddim yn gallu dod o hyd i lety yn unman. Roedd pob man yn llawn.

O’r diwedd cafodd Joseff le i aros mewn stabl. Cafodd Iesu ei eni yno. Fe wnaeth ei fam ei roi mewn preseb, cafn oedd yn dal bwyd yr anifeiliaid.

Heb fod yn bell i ffwrdd, roedd bugeiliaid yn edrych ar ôl eu defaid. Daeth angel Duw atyn nhw a dweud y newyddion da wrthyn nhw.

“Mae eich Achubwr wedi cael ei eni heddiw yn ninas Dafydd, ie, y Meseia. Yr Arglwydd. Dewch o hyd iddo yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.”

Yn sydyn, dyma filoedd o angylion llachar eraill yn dod i’r golwg, yn moli Duw ac yn dweud, “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchod, a heddwch ar y ddaear islaw, a bendith Duw ar bobl.”

Brysiodd y bugeiliaid i’r stabl. Ar ôl gweld y Babi, dyma nhw’n dweud wrth bawb beth oedd yr angylion wedi ei ddweud am Iesu.

Pedwar deg diwrnod wedyn, aeth Joseff a Mair â’r Iesu i’r deml yn Jerwsalem. Yno, dechreuodd dyn o’r enw Simeon ganmol Duw am anfon y Babi. Roedd hen wraig o’r enw Anna oedd yn gweithio i Dduw, hefyd yn diolch amdano.

Roedd y ddau yn gwybod fod Iesu yn Fab Duw, yr Achubwr roedd Duw wedi ei addo. Fe wnaeth Joseff aberthu dau aderyn. Dyma’r rhodd roedd Cyfraith Duw yn gofyn amdani pan oedd rhieni tlawd yn cyflwyno eu babi newydd i’r Arglwydd.

Ychydig amser wedyn, dyma seren arbennig yn arwain Dynion Doeth o un o wledydd y Dwyrain i Jerwsalem. “Ble mae’r un sydd newydd gael ei eni i fod yn Frenin yr Iddewon? Rydyn ni eisiau ei addoli,” medden nhw.

Clywodd y Brenin Herod am y Dynion Doeth. Roedd wedi ei gynhyrfu, a gofynnodd iddyn nhw ddweud wrtho os oedden nhw’n cael hyd i Iesu. “Rydw i am ei addoli hefyd,” meddai Herod. Ond roedd e’n dweud celwydd – roedd Herod am ladd Iesu.

Arweiniodd y seren y Dynion Doeth i’r tŷ lle roedd Mair a Joseff yn byw gyda’r plentyn bach. Dyma’n nhw’n penlinio o’i flaen i’w addoli. Rhoddodd y teithwyr anrhegion drud o aur a phersawr i Iesu.

Cafodd y Dynion Doeth rybudd gan Dduw i fynd adref heb ddweud wrth neb. Roedd Herod yn flin iawn. Yn benderfynol o ladd Iesu, trefnodd y brenin drwg i ladd pob bachgen bach ym Methlehem.

Ond doedd Herod ddim yn gallu niweidio Mab Duw! Wedi cael rhybudd trwy freuddwyd, aeth Joseff â Mair ac Iesu i’r Aifft er mwyn bod yn ddiogel.

Ar ôl i Herod farw daeth Joseff a Mair ac Iesu yn ôl o’r Aifft. Aethon nhw i fyw i dref fach Nasareth, wrth ymyl llyn Galilea.

Y Diwedd

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Beibl I Blant

Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.

More

Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php