Beibl I BlantSampl
CREODD DUW BOPETH! Pan greodd Duw'r dyn cyntaf, Adda, roedd yn byw yng Ngardd Eden gyda’i wraig, Efa. Roedden nhw’n berffaith hapus yn ufuddhau i Dduw a mwynhau ei gwmni nes un diwrnod…
Gofynnodd y sarff i Efa, “Ydy Duw wedi dweud wrthoch chi am beidio bwyta ffrwyth pob coeden?”
“Fe gawn ni fwyta unrhyw ffrwyth ond un,” atebodd, “os wnawn ni fwyta neu gyffwrdd y ffrwyth yna, fe wnawn ni farw.” “Wnewch chi ddim marw,” meddai’r sarff gan wenu’n slei.
“Fe fyddwch chi’n dod yn debyg i Dduw,” Roedd Efa eisiau ffrwyth y goeden honno. Gwrandawodd ar y sarff a bwyta’r ffrwyth.
Ar ôl i Efa anufuddhau i Dduw, dyma hi’n arwain Adda i fwyta’r ffrwyth hefyd. Fe ddylai Adda fod wedi dweud “Na! Dydw i ddim yn mynd i fod yn anufudd i Air Duw.”
Ar ôl i Adda ac Efa bechu, fe wnaethon nhw sylweddoli bod nhw’n noeth. Dyma nhw’n gwneud ffedogau allan o ddail ffigys a’u gwisgo, ac yna cuddio tu ôl i goeden, allan o olwg Duw.
Gyda’r nos daeth Duw i’r ardd. Roedd yn gwybod beth oedd Adda ac Efa wedi ei wneud. Rhoddodd Adda y bai ar Efa, a rhoddodd Efa y bai ar y sarff. Dywedodd Duw, “Mae’r sarff wedi ei felltithio. Bydd y wraig yn dioddef poen wrth eni plant.”
“Adda, achos bod ti wedi pechu, bydd drain a mieri yn felltith ar y ddaear. Bydd yn rhaid i ti weithio a chwysu er mwyn cael bwyd bob dydd.”
Fe wnaeth Duw i Adda ac Efa adael yr ardd hyfryd. Am eu bod nhw wedi pechu, fe gawson nhw eu gwahanu oddi wrth y Duw oedd wedi rhoi bywyd iddyn nhw!
Creodd Duw gleddyf tanllyd i’w cadw allan. Gwnaeth ddillad o groen i Adda ac Efa. O ble cafodd Duw’r crwyn?
Mewn amser, cafodd Adda ac Efa blant. Roedd eu mab cyntaf, Cain, yn arddwr. Bugail oedd yr ail fab, Abel.
Un diwrnod rhoddodd Cain lysiau yn anrheg i Dduw. Rhai o’i ddefaid gorau oedd anrheg Abel i Dduw. Roedd anrheg Abel yn plesio Duw.
Doedd anrheg Cain ddim yn plesio Duw. Aeth Cain yn flin iawn. Ond dywedodd Duw, “Os wnei di’r hyn sy’n iawn, fe gei di dy dderbyn.”
Daliodd Cain ati i deimlo’n flin. Ychydig yn ddiweddarach ymosododd ar Abel mewn cae – a’i ladd!
Siaradodd Duw gyda Cain. “Ble mae dy frawd, Abel?” Dywedodd Cain gelwydd wrth ateb “Wn i ddim”. “Ydw i’n gyfrifol am fy mrawd?” Collodd Cain ei fferm fel cosb, a gwnaeth Duw iddo grwydro o le i le o hynny mlaen.
Collodd Cain ei gyfeillgarwch gyda Duw. Priododd ferch i Adda ac Efa a dechrau magu teulu.
Cyn hir, roedd y ddinas a adeiladodd Cain yn llawn o’i wyrion a’i or-wyrion.
Yn y cyfamser, tyfodd teulu Adda ac Efa yn gyflym. Bryd hynny roedd pobl yn byw yn lot hirach na heddiw.
Pan gafodd ei mab Seth ei eni, dywedodd Efa, “Mae Duw wedi rhoi Seth i mi yn lle Abel.” Roedd Seth yn ddyn duwiol. Cafodd fyw nes ei fod yn 912 oed ac roedd ganddo lawer o blant.
Aeth pobl y byd yn fwy a mwy drwg wrth i un genhedlaeth ddilyn y llall. Yn y diwedd, penderfynodd Duw gael gwared â’r bobl…
…a’r holl greaduriaid a’r adar. Roedd Duw yn sori ei fod wedi creu’r ddynoliaeth. Ond roedd un dyn yn plesio Duw…
Enw’r dyn oedd Noa. Roedd yn ddisgynnydd i Seth. Roedd Noa yn ddyn da iawn, yn gwneud dim drwg. Roedd yn agos iawn at Duw.
Dysgodd hefyd i’w dri mab ufuddhau i Dduw. Roedd Duw yn bwriadu defnyddio Noa mewn ffordd arbennig, ond rhyfedd iawn!
Y Diwedd
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.
More
Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php