Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi. Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar. Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea, gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.” A daeth ei eiriau ef i'w cof. Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd. Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion. Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd. Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.
Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus. Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn. Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy, ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef. Meddai wrthynt, “Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?” Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau. Atebodd yr un o'r enw Cleopas, “Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn.” “Pa bethau?” meddai wrthynt. Atebasant hwythau, “Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngŵydd Duw a'r holl bobl. Traddododd ein prif offeiriaid ac aelodau ein Cyngor ef i'w ddedfrydu i farwolaeth, ac fe'i croeshoeliasant. Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn. Er hynny, fe'n syfrdanwyd gan rai gwragedd o'n plith; aethant yn y bore bach at y bedd, a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw. Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef.” Meddai Iesu wrthynt, “Mor ddiddeall ydych, ac mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?” A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau.
Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach. Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, “Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben.” Yna aeth i mewn i aros gyda hwy. Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o'u golwg. Meddent wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?” Codasant ar unwaith a dychwelyd i Jerwsalem. Cawsant yr un ar ddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd ac yn dweud fod yr Arglwydd yn wir wedi ei gyfodi, ac wedi ymddangos i Simon. Adroddasant hwythau yr hanes am eu taith, ac fel yr oeddent wedi ei adnabod ef ar doriad y bara.
Wrth iddynt ddweud hyn, ymddangosodd ef yn eu plith, ac meddai wrthynt, “Tangnefedd i chwi.” Yn eu dychryn a'u hofn, yr oeddent yn tybied eu bod yn gweld ysbryd. Gofynnodd iddynt, “Pam yr ydych wedi cynhyrfu? Pam y mae amheuon yn codi yn eich meddyliau? Gwelwch fy nwylo a'm traed; myfi yw, myfi fy hun. Cyffyrddwch â mi a gwelwch, oherwydd nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn fel y canfyddwch fod gennyf fi.” Wrth ddweud hyn dangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed. A chan eu bod yn eu llawenydd yn dal i wrthod credu ac yn rhyfeddu, meddai wrthynt, “A oes gennych rywbeth i'w fwyta yma?” Rhoesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio. Cymerodd ef, a bwyta yn eu gŵydd.
Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.” Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau. Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd, a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn. Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.”
Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio. Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef. Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem. Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.