Ceisio HeddwchSampl
Mewn Heddwch â'r Dyfodol
Oes gen ti heddwch am y dyfodol? Gall nosweithiau di-gwsg, straen a phryder brofi fel arall. Mae nifer o leisiau yn denu ein sylw. Mae un llais yn dweud, "Profa dy fod yn berson da." Mae llais arall yn dweud, "Well i ti fod â chywilydd o'th hun." Mae yna lais arall hefyd sy'n dweud, "I ddweud y gwir does neb yn poeni amdanat," ac un arall, " Gwna'n siŵr dy fod yn llwyddo, yn boblogaidd, ac yn bwerus."Ond, is-law y lleisiau hyn sydd yn aml swnllyd, mae yna lais bach yn dweud, "Ti'n annwyl i mi, rwy'n dy garu." Dyna'r llais mae arnom angen ei glywed fwyaf. Rhaid i ni stopio rhoi ein gobaith yn ein huchelgais a rhoi ein gobaith yn gyfan gwbl yn Nuw, gan ddod o hyd i heddwch yn y dyfodol sydd gan Dduw ar ein cyfer.
Dihareb Affricanaidd
Gall dyn hefo gormod o uchelgais fyth gysgu'n heddychlon ~Dihareb o Chad
Gweddi yw enaid y cwbwl a wnawn. Ymuna â Tearfund a miloedd o eglwysi ar draws y byd mewn gweddi, wrth i ni geisio heddwch a iachâd mewn byd o ddioddefaint.
Gweithred
Noda ar bapur dy gynllun ar gyfer yr hyn yr hoffet ti ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Yna, noda hefyd beth sydd arnat ei angen gan Dduw i gyflawni dy ddymuniadau a pha bethau rwyt yn fodlon eu hildio a phethau rwyt yn synhwyro dy fod angen eu cynnig iddo.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.
More