Ceisio HeddwchSampl
Mewn heddwch gyda Duw
Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib. (Rhufeiniaid 5:11)
Mae'r daith i chwilio am heddwch yn un i'w gwneud ar ben ein hunain. Mae modd dod o hyd i heddwch mewn sawl lle, P'un ai os yw hynny yn y sba, y gampfa, neu ble bynnag sy'n dy ymlacio, mae'n arferiad da chwilio am noddfa. Mae'n beth da bod yn fwriadol wrth chwilio am y noddfa hwnnw sy'n angenrheidiol.
Mae'r gair 'noddfa' (sanctuary) yn dod o'r Lladin 'sanctus' sy'n golygu sanctaidd. Wrth chwilio am heddwch rhaid peidio ag anghofio am yr hyn sy'n sanctaidd.
Mae ein perthynas efo Duw wedi'i ailgymodi, drwy Iesu. Mae Iesu wedi dod â ni i berthynas fyw gyda'r Tad, sy'n caniatáu i ni gael ein galw'n ffrindiau i Dduw.
Fel gyda unrhyw gyfeillgarwch ystyrlon rhaid i ni fod yn onest ac agored er mwyn i'r berthynas honno ddyfnhau. Dos at Dduw gyda phethau rwyt angen eu hildio, gan geisio ei garedigrwydd cariadus i roi heddwch i ti. Gofynna iddo barhau dy fowldio'n debycach i Grist.
Dihareb Affricanaidd
Dangos imi dy ffrind a fe wnaf i ddangos i ti dy gymeriad.~Dihareb Affricanaidd
Gweithred
Dos i gael sgwrs gyda un o'th ffrindiau gorau a dweda'r beth ti'n ei werthfawrogi yn y gyfeillgarwch. Ar ôl y sgwrs, myfyria ar sut y gelli adeiladu perthynas debyg gyda Duw, am ei fod yntau wedi dy alw yn ffrind.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.
More