Ceisio HeddwchSampl
Mewn Heddwch gyda'r Gorffennol
Mae dod o hyd i heddwch gyda'r gorffennol yn gallu bod yn sialens, p'un ai yw'n benderfyniad rwyt yn ei ddifaru neu maddau i rywun am dy feio ar gam. Mae'n bwysig delio gyda'r gorffennol fel na all gael unrhyw bŵer dros y presennol neu'r dyfodol. Dychmyga dy fod yn reidio beic. Os byddi'n cadw ati i edrych yn ôl neu'n canolbwyntio ar ei lawr, byddi, heb os nac oni bai, yn mynd ar dy ben i mewn i rywbeth. Mae'n bwysig cadw dy lygaid o'th flaen gan ymrwymo yn y pethau newydd mae Duw yn eu gwneud.
Ffordd bwysig o fod mewn heddwch â phethau sy'n brifo o'r gorffennol yw i ddewis maddeuant. Pan wyt yn maddau i rywun sydd wedi dy frifo, dydy o ddim yn cyfiawnhau beth ddigwyddodd. Yn hytrach, mae'n golygu du fod yn caniatáu dy hun i symud ymlaen â'th fywyd. Mae dy orffennol hyfryd yn dda oherwydd dau reswm, i ddysgu oddi wrtho ac i fwynhau'r bywyd mae Duw wedi ei roi.
Dihareb Affricanaidd
Pan mae heddwch yn y wlad nid yw'r pennaeth yn cario tarian. ~ Dihareb o Uganda
Mae Heddwch a chymodi yn broses o iachâd ble mae Tearfund wedi eu bendithio i fod yn rhan ohono. Dyma o Rwanda am sut y gall maddeuant iachau hyd yn oed y clwyfau dyfnaf.
Gweithred:
Oes yna fyth sefyllfaoedd ble rydych yn cario tarian oherwydd difffyg heddwch? Os wyt yn ddigon dewr dos i'r fynwent leol a cherdda drwyddi er mwyn ennill synnwyr persbectif am y gorffennol. Bydd sawl carreg fedd yn dwyn y neges olaf gan gâr yn dweud "Gorwedda mewn Heddwch". Cymer y cyfle i fod yn agored gyda Duw a maddau i ti dy hun am unrhyw ofid neu anfodlonrwydd am y gorffennol.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.
More