Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio HeddwchSampl

Pursuing Peace

DYDD 4 O 7

Mewn Heddwch â ni ein Hunain

Yn aml iawn mae'r frwydr fwyaf am heddwch tu mewn i ni. Mae yna stori am daid yn dweud wrth ei ŵyr, " dw i'n teimlo fel bod yna ddau flaidd y n ymladd yn fy nghalon. Mae un blaidd yn ddialgar, blin a threisgar. Mae'r blaidd arall yn gariadus a thrugarog." Gofynnodd yr ŵyr iddo, " Pa flaidd fydd yn ennill y frwydr yn y galon?" Atebodd y taid, "Yr un dw i'n ei fwydo."

Dŷn ni'n dewis beth i fwydo'n heneidiau. Sut wyt ti'n meddwl amdanat ti dy hun?" Rhaid i ni wynebu'r meddyliau sydd yn ein bywyd dyddiol a rhaid i ni fod yn ofalus am sut dŷn ni'n delio hefo'n pryderon. Mae'r Beibl yn ein hannog i ganfod heddwch drwy gyflwyno ein pryderon i Dduw a gadael iddo fe amddiffyn ein calonnau a'n meddyliau, hyd yn oes pan mae hynny tu hwnt i'n deall ni..

Dihareb Affricanaidd:

Mae croen llewpard yn hyfryd ond nid felly ei galon. ~Dihareb o Baluba

Mae yna erthygl heriol ar safle Tearfund Rhythms sy'n werth ei darllen, gan ei bod yn gofyn os yw ein hunaniaeth yn gysylltiedig â'r hyn dŷn ni'n ei wisgo.

Gweithred:

Dŷn ni'n amal yn dod o hyd i hunaniaeth yn ein meddiannau. Dos i dy hoff siop ddillad, nid i brynu unrhyw beth, ond i fyfyrio ar dy anghenion. Mola Dduw drwy weddi gan fod Duw yn dy wisgo gyda'i gyfiawnder. Gofynna iddo dy gwrdd yn y fan a'r lle a dos o'r siop heb ddim, gan wybod dy fod wedi chwilio am rywbeth all Duw yn unig ei ddarparu

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Pursuing Peace

Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.

More

Hoffem ddiolch i Tearfund am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.tearfund.org/yv