Ceisio HeddwchSampl
Mewn Heddwch â'th Amgylchedd
Gall ofn ddwyn ein heddwch. Wyt ti fyth yn gwylio'r newyddion ac yn dechrau ofni fod y byd yn ymddangos yn fwy a mwy treisiol ac ymosodol nac erioed o'r blaen? Ymhlith trychinebau naturiol, newid yn yr amgylchedd a therfysgaeth, mae Iesu yn talu sylw, yn ceryddu ofn a'n gorchymyn i fyw mewn ffydd a pheidio bod ag ofn.
Mewn byd o ansicrwydd ac ofn, fe all edrych yn beth doeth i adeiladu ein ffydd o gwmpas caerau o ddiogelwch, gan chwilio am ryw synnwyr o heddwch yn ein hunain drwy hel celc, llwyddiannau, ffyniant a chyflawniadau.
Dihareb Affricanaidd:
Nid cyfoeth yw cyfoeth sy'n caethiwo. ~Yoruba
Mae'r heddwch mae Iesu yn ei gynnig yn wahanol iawn. Mae'n heddwch ynghanol dioddef, ynghanol y storm. Mae'n dweud wrthon ni, "Tyrd yn dy flaen, Fi sydd yma. Paid â bod ag ofn!" Yng Ngwledd y Pasg mae Iesu yn ailadrodd y geiriau hyn: "Peidiwch cynhyrfu."
Mae Tearfund yn gweithio mewn ardaloedd o drychinebau, gan ddilyn Iesu ble mae'r angen fwyaf. Gwylia i weld sut wnaeth Tearfund Seland Newydd ymateb i'r alwad hon i ddod â heddwch ar y ddaear.
Gweithred
Edrycha ar benawdau'r newyddion ac unwaith maen nhw wedi gorffen, tro'r teledu i ffwrdd, rho'r papur newydd o'r neilltu. diffodda'r radio. Gweddïa ar i Dduw ddod â'i heddwch i bob un o'r sefyllfaoedd hynny.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.
More