Ceisio HeddwchSampl
Mewn Heddwch gyda'r Presennol
Mae'n teimlo fel newid radical i ddechrau pob diwrnod trwy ddwyn i gof, cariad, trugaredd a ffyddlondeb Duw. Yng nghanol prysurdeb bywyd, mae'n bwysig neilltuo amser, p'un ai ar ddechrau neu diwedd dydd, i ofyn i Dduw am y rhodd o heddwch.
Dihareb Affricanaidd
Mae tawelwch yn meithrin heddwch a chyda heddwch fe ddaw diogelwch ~Dihareb o Ddwyrain Affrica
Dywed Mathew 5:9, "Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw."
Y fendith fwyaf, unwaith y byddwn wedi derbyn y rhodd hwn, ydy i'w gynnig i eraill a pheidio ei gadw i ni ein hunain. Dylem fod yn cynnig Heddwch mewn byd sy;n awchu amdano. Gallwn wneud hyn, hefyd, drwy weddïo am heddwch i eraill, am heddwch ble mae yna wrthdaro, am ddirnadaeth a doethineb i arweinwyr a heddychwyr mewn ardaloedd ble mae gwrthdaro.
Dihareb Affricanaidd:
Nid yw rhuthro'n ddiwedd yn atal marwolaeth, fel nad yw pwyllo'n arbed byw. ~ Dihareb Ibo
Ar ei gorau, mae'r eglwys yn 'ddarlun byw' a thystiolaeth i iacháu, cymodi a gwaith adferol Crist. Mae gan platfform weithredol Tearfund o'r enw Rhythmsnifer o weithrdoedd y gallwch eu rhoi ar waith, gan fyw yr alwad i fod yn heddychwr mewn bywyd bob dydd.
Gweithred
Dos i wylio pobl. Gweddïa dros ddieithriaid, gan wybod nad yw'r pobl hynny yn ddieithr i Dduw. Gweddïa y byddan nhw'n profi cariad Duw, gan deimlo eu bod wedi'u hamgylchynu gan ei bresenoldeb, er gwaethaf unrhyw sefyllfa neu anrhefn maen nhw'n eu brofi.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.
More