Ceisio HeddwchSampl
Mewn Heddwch ag Eraill
Mewn rhai eglwysi mae yna weithred sy'n cael ei galw'n cyfnewid heddwch sy'n symbol o gariad Cristnogol ac undod rhwng credinwyr. Pan dŷn ni'n dod i arfer â thraddodiadau, mae'n hawdd iawn i anghofio eu hystyr. Cymuned gref yw un sydd yn profi heddwch, ac yn hau hwn i fywyd eraill. Gyda chynnydd mewn unigoliaeth yn ein cymunedau, mae'r waliau'n codi'n uwch ac yn anodd dringo drostynt, yn union fel mae dangos cariad i ddieithriaid.
Gallai cynnig heddwch i eraill fod mor syml ag ymweld â chymydog oedrannus, cynnig cwpaned o ddŵr, bwydo'r tlawd neu ofalu am blentyn. Gallai fod yn faddau i rywun sydd wedi dy feio ar gam, siarad dros rai sy'n cael eu gormesu, mynd yr ail filltir pan fyddai'n well gen ti beidio mynd i unlle, neu yn syml ddweud sori. Rhaid i'r gweithredoedd hyn fod wrth wraidd gweddi. Gweddïa am heddwch go iawn ac adeiladu teyrnas Dduw ar y ddaear.
Dihareb Affricanaidd
Pan mae heddwch yn y wlad nid yw'r pennaeth yn cario tarian.~ Dihareb Ugandaidd
Pan mae gan frenin gynghorwyr da mae ei deyrnasiad yn un heddychlon. ~Dihareb Ashanti
Mae Tearfund yn gweld storïau go iawn am heddwch yn datblygu,Darllen storiam
Weithred:
Wyt ti angen cymodi perthynas heddychlon â rhywun? Gofynna i gwrdd i esbonio pam hoffet ti wneud hyn. Gofynna i Dduw ddangos i ti sut i gynnig cariad a maddeuant tebyg i Grist.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Tearfund yn chwilio am arweiniad Duw ar sut i fod yn lais gweithredol o heddwch, adnewyddu perthynas, a chydlyniad rhwng cymunedau ar hyd a lled y byd. Mae yna weithrediadau dyddiol yn rhan o'r astudiaeth 7 diwrnod hwn i'th alluogi i adnewyddu dy berthynas dy hun ag eraill a gweddïo dros y byd, drwy ddefnyddio doethineb gyfoethog o ddiarhebion Affricanaidd i'n helpu i ddarganfod gwir heddwch Dduw.
More