Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Pan fyddwn gyda’n gilydd, mae e gyda ni. Os wyt ti eisiau treulio amser gyda Duw, trïa dreulio noson gyda grŵp o bobl sy’n ei garu. Os wyt ti’n teimlo’n unig, gwahodda bobl draw sy’n mwynhau gweddïo. Pwy arall ddaw i mewn drwy’r drws?
Mae Duw’n bresennol ble mae mawl yn gryf. Os wyt ti eisiau ei wneud yn real a’i adnabod, yna, dylet dreulio dy fywyd yn ei addoli. Mae Duw’n ymddangos pan fydd dyn neu ddynes o ffydd yn herio digwyddiadau ac amgylchiadau â chalon yn gorlifo ag addoliad pur. Os wyt ti’n delio ag unigrwydd, cynydda’r sain ar ganu mawl a chodi dy ddwylo i'r awyr, am ei fod e yna! Dwyt ti ddim ar ben dy hun. Cana’n uchel a chryf! Mae e yna! Dwyt ti ddim ar ben dy hun Cana yn y car ac yn y gawod a bydd e gyda thi. Pryd bynnag y byddi’n gwneud dewis ymwybodol i addoli, rwyt newydd osod dy hun yn ei bresenoldeb. Dwyt ti fyth ar ben dy hun.
Pe bawn i’n ddoctor, ac mi rydw i, am wn i, yn ddoctor yr enaid, gad imi sgwennu presgripsiwn ar gyfer unigrwydd. Rho e i rywun o leiaf dair gwaith y dydd. Bydd dy unigrwydd wedi’i iachau pan fyddi di’n poeni fwy am anghenion rhywun arall, yn hytrach na dy fywyd unig. Gwena ar rywun yn y siop fwyd. Sgwenna at hen ffrind coleg i adfer perthynas. Paid â bod yn oddefol ac aros gartref yn gwylio'r teledu, oherwydd fe weli mai rhoi yw'r iachâd ar gyfer unigrwydd bob amser.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com