Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 17 O 30

Unigrwydd, i’w roi yn syml yw, teimlo fel bod neb yn rhyw boeni llawer am dy fywyd. Mae’n bosibl mai unigrwydd yw’r emosiwn mwyaf dinistriol oll. Os nad yw Satan yn gallu dy faglu gyda phryder ac ofn, fe wnaiff e drio dy ddieithrio oddi wrth berthynas iach oherwydd mae hyd yn oed Satan yn gwybod am bŵer y ddau!

Er efallai dy fod ti’n teimlo’n unig, rhaid iti atgoffa dy hun nad wyt ti byth ar ben dy hun oherwydd mae’r Beibl yn ei addo. Mae hwn yn un o'r eiliadau bywyd strategol hynny pan fydd yn rhaid i ti atgoffa dy hun nad yw dy holl deimladau yn ddilys. Pan fydd dy galon yn trio dweud wrthot ti dy fod ar ben dy hun a does neb yn poeni amdanat ti, na’th fywyd, mae dy galon wedi bod yn siarad â Satan ac yn gwrando ar ei gelwyddau erchyll.

Wrth feddwl am unigrwydd, mae’n rhaid iti agor dy Feibl a chytuno gyda Gair Duw, ac nid gyda dy deimladau truenus. Roedd y geiriau olaf a siaradodd Iesu â’i ddisgyblion yn eu hatgoffa, er na fydden nhw’n gallu ei weld mwyach â’u llygaid, y byddai e mewn gwirionedd gyda nhw bob amser, “Gallwch chi fod yn siŵr y bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod” (Mathew, pennod 28, adnod 20).

Thema cân Iesu yw na fyddi fyth yn cerdded ar ben dy hun. Fyth. Mae’r celwydd mae Satan yn ei chwydu allan yn cyfeirio’n unig at ein teimladau a ddim yn wirionedd ysbrydol. Y gwirionedd Beiblaidd yw, dy fod wedi dy amgylchynu gan gariad a gofal Duw bob dydd o’th fywyd. Does dim all dy wahanu oddi wrth gariad Duw, rwyt wedi dy amgylchynu’n ddiogel gan ei ofal cariadus, am ei fod wedi’i addo. Mae unigrwydd yn gelwydd - celwydd sbeitlyd ac atgas a fydd yn peri iti amau gwirionedd Gair anffaeledig Duw.

Gwirionedd Iesu yw dy ffrind gorau, felly dechreua ymddwyn felly heddiw. Rhanna dy galon gydag Iesu ac yna gwranda i weld sut mae’n ymateb iti. Treulia noson gyfan yn ei bresenoldeb gyda cherddoriaeth mawl a Gair Duw’n agored. Sgwenna lythyrau caru ato a rhannu dy galon tra rwyt yn ei bresenoldeb. Pan fyddi di’n dechrau ymateb i Iesu, fel byddet ti i ffrind, bydd dy unigrwydd yn cilio, dw i’n gwarantu hynny!
Diwrnod 16Diwrnod 18

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com