Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 20 O 30

Yn fy mhrofiad i, anaml y byddaf yn gallu "trwsio" ymddygiad heriol pobl yn fy mywyd. Nid yw ymateb gydag emosiwn i bobl anodd byth yn cynhyrchu newid parhaol. Credaf efallai bod Duw wedi dy osod ym mywyd y person anodd hwnnw nid i gymedroli ei ymddygiad afreolaidd, ond i weddïo drostyn nhw. Mae yna hafaliad syml y mae Duw yn ei roi inni i ddelio â'r dynion golygus anniddig a thrafferthus hynny sy’n rhan o’r ddynoliaeth: Cariad + Gweddi = Buddugoliaeth.

Yn aml y mae strategaeth Duw yn cynnwys emosiwn ond mae ganddo bob tro ddigonedd o ddosau o gariad a gweddi yn gymysg â'i gilydd i ddod i gasgliad buddugoliaethus. Wnaeth Duw ddim dy greu di i fod yn dderfis chwyrlïol sy'n defnyddio geiriau fel pigiad, i frifo a rheoli pobl. Creodd Duw ti i fod yn ddyn neu'n ddynes a oedd yn fwy ymroddedig i Deyrnas nag i hunan. Gall pobl anodd rhedeg i ffwrdd oddi wrth dy eiriau, ond fedran nhw ddim dianc rhag dy weddïau. Allwn ni ddim a ddylen ni ddim creu datgysylltiad rhwng yr hyn dŷn yn ei gredu a sut dŷn ni’n trin eraill, waeth pa mor anodd y gallen nhw fod.

Mae yna wrthgyffur i chwerwder a digofaint; yr enw a roddir iddo yw caredigrwydd. Mae yna ffordd i orchfygu dicter a chlochdar; mae’n cael ei adnabod fel tynerwch calon. Mae yna ffordd hefyd i goncro pardduo, a maddeuant yw hynny.

Mae’n cymryd Cristion aeddfed a duwiol i faddau i’r erlidwyr mewn bywyd. Dŷn ni’n bendithio gyda’n tafod, gyda'n hagweddau calon, gyda'n hemosiynau a gyda'n gweithredoedd. Efallai bod rhai ohonoch chi'n meddwl, "Ie, ond Carol, dwyt ti ddim yn adnabod fy Anti Matilda! Mae hi'n annwyl ym mhob ffordd y gellir ei ddychmygu!" Falle nad wyt ti eisiau clywed fy ymateb i senario dy Anti Matilda ond dyma fo, Mae rhywun yn caru dy Anti Matilda, a Duw yw ei enw, felly dechreua ymddwyn fel dy Dad!

Onid oes rhywbeth ym mhob un ohonom na allwn ni ei garu. Mae pob un ohonom yn gallu bod yn bigog, yn ddi-flewyn-ar-dafod ac yn ddadleuol o bryd i’w gilydd, ond dw i’n credu mai’r rheswm pam nad oes modd caru pawb yw ein bod yn greiddiol yn gweiddi allan i gael ein caru. Bydd llawer o weithiau mewn bywyd pan fydd dy benderfyniad i garu un sy’n bigog, yn eu diarfogi'n llwyr.

Os byddi di'n gwrthod maddau ac yna'n bendithio'r bobl anodd yn dy fywyd, rwyt ti mewn perygl o ddod yn berson anodd dy hun. Mae'r hafaliad yn golygu dim methiant a bydd yn gwarantu dy fuddugoliaeth yn y pen draw:

Cariad + Gweddi = Buddugoliaeth!
Diwrnod 19Diwrnod 21

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com