Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 21 O 30

Beth yn union yw’r holl falu awyr 'ma? Fedrith cur pen yr enaid mo’i ddiffinio fel “iselder” oherwydd rwyt yn gallu dal ati i weithredu os wyt ti wedi dy dargedu gan yr holl falu awyr. Eto, rwyt ti’n dal yn dewis i, waeth bynnag pa mor swrth, i ddal ati. Rwyt ti’n parhau i allu ymwneud â phobl, er nad yw dy atebion mor syfrdanol neu fywiog. Nid wyt wedi cilio i ogof eto, ond mae llechu dan flanced, cael napyn hir, a thawelwch llethol yn demtasiwn. Pob dydd. Trwy’r dydd.

Rwyt ti’n gallu codi bob bore, er dim ond hyd at hanner dy botensial rwyt ti’n gallu gweithio. Dwyt ti ddim yn ddigalon, eto, dwyt ti ddim yn llawen neu’n llawn cynnwrf am unrhyw beth o gwbl. Ddydd ar ôl dydd rwyt yn mynd a dod mewn gwacter llwyd diddim. Rwyt ti’n gwenu weithiau ond prin anaml mae’n mynd yr holl ffordd i’th galon. Rwyt ti wedi mentro a mynd ati... wedi codi a mynd... i rywle. Ond dwyt ti ddim yn siŵr i ble aeth dy fenter!

Dyma yw dy gynllun gêm ddyddiol a’th strategaeth bywyd gwarantedig i guro’r holl falu awyr. Mae pob diwrnod newydd sydd wedi’i roi i ti gan yr Arglwydd yn gyfle newydd i reoli dy ddiwrnod gyda moliant. Rhoddodd Duw'r diwrnod hwn i ti a’i gynllunio gyda thi mewn golwg. Mae ganddo gynllun i ti ar gyfer pob un diwrnod o’th fywyd sydd yn cynnwys dos sylweddol o fawl. Os wyt ti eisiau’r sicrwydd dy fod yn cymryd rhan yn ewyllys Duw ar gyfer dy fywyd o ddydd i ddydd, mae’n hanfodol dy fod yn dechrau dy ddiwrnod gyda moli, dy fod yn ei lenwi ag addoliad, ac yn gorffen gyda diolchgarwch. O’r funud gyntaf ar ôl deffro, tan yr eiliad olaf cyn cysgu, gwna ddewis ewyllysgar i fawrhau'r Arglwydd yn unig, a pheidio byth â'i holi. Dŷn ni ddim yn bobl sy'n beio'r Arglwydd, dŷn ni’n bobl sy'n bendithio'r Arglwydd!

Ysgrythur

Diwrnod 20Diwrnod 22

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com