Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 23 O 30

Roedd Dafydd yn ddyn cyffredin ond roedd ganddo galon anghyffredin. Roedd yn stryglo gyda dicter emosiynol, yn union fel ti a fi. Safodd ar ymyl dibyn y pwll du o amseroedd iselder gymaint o weithiau na ellir eu rhifo, felly roedd yn gwybod beth oedd ei angen i frwydro yn erbyn y diflastod hefyd. Dewisodd Dafydd orchymyn i'w enaid, sef man geni ein meddyliau, ein hemosiynau a'n personoliaeth, fendithio'r Arglwydd. Mae'r ymadrodd hwn wedi'i adeiladu yn y rheidrwydd, sy'n golygu nad yw'n opsiwn ond yn orchymyn diffiniol. Yr oedd Dafydd, i bob pwrpas, yn dweud, "Enaid, waeth pa mor glwyfedig yn teimlo, byddi’n bendithio'r Arglwydd! Personoliaeth, goroesa a chlodfora’r Arglwydd! Nawr! Emosiynau, stopia dy swnian, cwynfanllyd ac agor dy galon i addoli'r Arglwydd!"

Bydd addoliad yn adnewyddu naws dy fywyd mewn ffordd nad oes gan ddim bys arall y pŵer i wneud. Mae yna un person ac un person yn unig sy'n eich cadw rhag gorfoleddu. Efallai y byddi’n ceisio rhoi’r bai ar y diafol ond nid oes ganddo'r pŵer i atal dy galon rhag torri i mewn i gân. Mae'r diafol mewn gwirionedd wedi sylweddoli nad oes angen iddo dawelu dy allu i addoli oherwydd bod y person arall hwn wedi gwneud gwaith mor drylwyr fel nad oes angen ffyrdd cyfrwys y diafol mwyach. Pwy yw'r atalydd pwerus hwn sy'n sefyll rhyngot ti a'r ffrwydrad symffonig o addoli? Ti! Ti ydy’r bai! Rwyt ti'n dewis peidio â llawenhau pan fyddi di'n cael dy lethu gan ddiflastod sydd ddim mor ddiniwed ag y mae’n ymddangos.

Dim ond un rheswm sydd mewn gwirionedd pam y byddai Cristion sy’n caru Iesu’n llwyr yn dewis peidio â llawenhau. Mae un rheswm y gellir ei fynegi mewn ffyrdd dirifedi. Hunanoldeb. Byw hunanganolog. Hunanymwybyddiaeth. Edrych allan am #1! Hunangadwraeth. Fy ffordd neu'r briffordd. Mae bywyd yn ymwneud â mi. Dydw i ddim yn teimlo felly. Does dim rhaid i mi os nad ydw i eisiau.

Dy ddewis di yw. Ti sy’n dewis canmol dy hun neu ganmol Duw. Dewisa beth i'w wneud, heddiw.

Ysgrythur

Diwrnod 22Diwrnod 24

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com