Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Mae yna hoff ddywediad sy’n dweud fod Cristnogion, hyd yn oed, yn cymryd cysur ohono yn ystod ar adegau o bwysau a thrasiedi, “Cymera un dydd ar y tro.”
Ga’ i ddweud yn glir - DW I’N DWEUD NA!! Does dim pŵer cynhenid i iachâd drwy gymryd un dydd ar y to. Dim ond Duw sydd â’r pŵer i iachau! Dw i’n adnabod merched sydd yr un mor ddig a blin ag oedden nhw ddeg mlynedd yn ôl Dydy cymryd pethau un dydd ar y tro heb wella eu heneidiau. Dw i’n adnabod merched sydd yr un mor ochel eu cloch nac oedden nhw 30 mlynedd yn ôl. Dydy amser heb iachau’r merched cryglyd a blinedig hyn.
Dim ond Iesu sydd â’r pŵer i iachau, ac felly os oes gen ti galon doredig ac yn hiraethu am gysur, mae’n rhaid iti dreiddio i mewn i’w bresenoldeb ble mae gwyrthiau’n cymryd lle, nid oherwydd amser ond o’i herwydd e. A wyt yn caniatáu i’r agosatrwydd meithringar y mae'n ei roi yn arbennig i'r torcalonnus wella dy galon heddiw?
Dim ond yr Arglwydd all wella calon doredig. Bydd geiriau pobl eraill yn dy annog ac yn dod â mesur bach o iachâd, ond mae’r iachâd go iawn yn dod gan yr Arglwydd. Gall gweithredoedd ac ystumiau caredig dynnu'r colyn oddi ar galon ddrylliog, ond ni all dim, ac ni all neb heblaw'r Arglwydd, roi'r cyffyrddiad iachaol coronaidd hwnnw ar dy fywyd. Mae ganddo'r pŵer, y cariad a'r sgil dwyfol i'th wella rhag y boen ryfeddol rwyt ti'n mynd drwyddo. \\\
Mae Duw yn gallu adfer dy enaid a pherfformio trawsblaniad calon ysbrydol os mai dyna sydd ei angen i'th symud i iechyd a gobaith eto. Mae hyn yn ymddangos yn amhosibl pan fydd gen ti galon wedi torri ond nid yw'n amhosibl i Dduw! Mae ewyllys Duw bob amser yn adferiad ac yn iachâd.
Gallwn yn hawdd deall y cysyniad fod yr Ysbryd Glân yn ymdrechu i siarad drwy’r salmydd pan mae’n dweud. “... ac yn rhwymo eu briwiau.”
Y gair llun sy'n cael ei beintio trwy'r iaith Hebraeg yw'r darluniad hardd o deiliwr yn trwsio ac yn gwnïo yn dyner yr hyn a rwygwyd yn ddarnau. Os oes gen ti galon sydd wedi torri, fy ffrind, dw i'n nabod rhywun sydd â'r sgiliau arbenigol i'w thrwsio'n hawdd ac yn berffaith. Nid yn unig y mae e’n gallu trwsio dy galon ddrylliog, ond y mae ganddo'r dymuniad i wneud hynny.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com