Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 25 O 30

Os oes yna un lle ble mae Duw’n teimlo’n gartrefol, y mae hynny’n dy foliant ohono. Mae Duw’n eistedd nôl, rhoi ei draed i fyny pan mae crediniwr yn dewis addoli. Fel arall, pan wyt ti’n colli dy dymer ac yn sgrechian i gyfeiriad y nefoedd, mae Duw’n anghyfforddus i fyw yn y cartref hwnnw. Ein calonnau yw cartref Duw ac mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth i ni benderfynu ar y math o awyrgylch dŷn ni wedi’i greu i Dduw fyw ynddo. Rwyf wedi dysgu, mewn cymaint o sefyllfaoedd yn fy mywyd, fod Duw â mwy o ddiddordeb mewn newid fy nghalon nag y mae mewn newid fy amgylchiadau. Gan mai gwaedd fy nghalon yw bod yn debycach iddo bob dydd, yna, rhaid i mi, hefyd, roi mwy o sylw a thalu mwy o sylw gweddigar i'r hyn sy'n datblygu yn fy nghalon na'r hyn sy'n digwydd yn fy amgylchiadau. Gofynnwn i Dduw newid ein hamgylchiadau pan mai'r hyn y mae'n ei ddymuno yw i'n hamgylchiadau ein newid ni.

Fel crediniwr, mae gen ti ddewis naill ai i chwyddo dy boen a dy amgylchiadau siomedig neu i fawrhau dy Dduw er gwaethaf dy boen. Mae rhai ohonom yn siarad mwy am ein tristwch a'n trallod nag a wnawn am yr Arglwydd dŷn ni’n ei wasanaethu. Fedra i bob amser ddyfalu beth mae dynes wedi’i ddewis i fawrygu drwy ei ffordd hi o siarad, naill ai'n ymwybodol neu'n isymwybodol.

Wrth imi fyfyrio ar wŷr a gwragedd mawr Duw yn y Beibl, a ddewisodd ei wasanaethu ac a ddefnyddiwyd yn sylweddol yn eu hamser hanesyddol, nid oes un nad oedd yn gorfod delio â siom. Plentyn amddifad oedd Esther, fagwyd gan ei hewythr di-briod, ac eto, defnyddiodd Duw hi i arbed cenedl gyfan yr Iddewon. Cafodd Joseff ei wawdio gan ei frodyr a chafodd ei werthu i gaethwasiaeth ond eto fe’i penodwyd yn bennaeth ar wlad yr Aifft a chyda strategaeth i achub ei gydwladwyr rhag newyn difrifol. Cafodd Daniel ei gipio o gartref ei blentyndod a’i daflu i ffau’r llewod, ac eto, defnyddiodd Duw e fel grym cyfiawnder ym Mhabilon. Nid yw Duw wedi gorffen gyda ti eto ac mae'n gweithio gyda'i blant nes iddo ennill! Nid oes gan dy siom y pŵer i'th siomi ond fe all mewn gwirionedd dy roi i mewn sefyllfa strategol i gael dy ddefnyddio gan Dduw.
Diwrnod 24Diwrnod 26

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com