Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 29 O 30

Mae gynnon ni’n wir, elyn sydd mewn rhyfel cyson â ni oherwydd dydy e ddim eisiau i ni gael y bywyd mae gan Dduw ar ein cyfer ni i gyd.
y Mae’r diafol yn ddi-baid yn ei ymdrechion i’th rwystro rhag cael bywyd helaeth. Mae’r casgliad o arfau sydd gan y gelyn yn ymatebion emosiynol oherwydd fedrith e ddim cyffwrdd ein hysbryd ac felly ei gynllun yw siarad â’n henaid. Bydd y gelyn yn trio ein twyllo i feddwl ei bod yn haeddu cerdded mewn anfaddeuant neu nad oes neb yn deall ein poen arbennig. Pan fyddwn yn cytuno ag ef yn ei dwyll, bydd ein harferion emosiynol yn dynwared dewisiadau'r diafol yn hytrach na digonedd Duw.

Un o’r ffyrdd amlycaf y mae Satan yn ceisio gwadu’r gallu i Gristnogion allu byw bywyd toreithiog yw, trwy drio eu darbwyllo bod ganddyn nhw hawl i emosiynau negyddol. Mae’r diafol wrth ei fodd pan wyt ti’n cytuno ag e bod gen ti hawl i boeni, dangos y diffyg maddeuant, neu ddangos dicter gwarthus, ac yna mae’n rhwbio’i ddwylo bach cas â’i gilydd mewn llawenydd pan fydd yn dy dwyllo i golli dy limpyn yn llwyr. Dydy Duw ddim am iti gytuno â’r diafol Mae e eisiau iti fod yn debyg iddo’i hun. Mae Duw’n dy garu ddigon i’th ddisgyblu nes dy fod yn cydnabod nad oes gen ti na'r diafol, well syniad na Duw!

P’un a wyt yn 8 neu 88, does neb yn mwynhau’r broses o ddisgyblaeth. Mae unrhyw un sy'n dymuno cael ei ddefnyddio mewn ffordd ganlyniadol gan Dduw, yn deall y rhagofyniad dwyfol i oresgyn ymatebion cnawdol dy hun i fywyd. Mae dy gnawd, y gellir ei gydnabod hefyd fel dy emosiynau dynol, yn sefyll mewn gwrthwynebiad i'th ysbryd ac i Ysbryd Duw ynot ti, oni bai dy fod wedi dysgu nid yn unig disgyblu'r cnawd ond ei groeshoelio hefyd.

Os mai dy ddymuniad mwyaf angerddol yw bod yn arddangosfa fawreddog o ffrwyth yr Ysbryd a phersonoliaeth Duw, y pris y mae'n rhaid iti ei dalu yw croeshoelio'r cnawd a disgyblu dy emosiynau. Os wyt ti'n gallu cydweithredu â Duw yn yr ymdrech anodd hon, byddi'n gosod dy hun ar gyfer argaeledd wrth gyflawni cynllun arwyddocaol Duw ar yr adeg hon mewn hanes.
Diwrnod 28Diwrnod 30

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com