Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 26 O 30

Mae calon doredig yn gymaint mwy na dim ond siom ac yn chwipio i mewn i’ bywydau gyda grym sy’n gadael popeth wedi’i newid am byth. Bydd calon doredig yn gwneud iti deimlo'n druenus gan boen ac yn dy lethu gan dristwch. Bydd calon doredig yn dy adael yn ymladd am anadl.

Roedd Duw yn gwybod tra ein bod ni'n byw'r ochr hon i'r nefoedd y byddai yna bobl, digwyddiadau a materion a fyddai'n torri calonnau Ei blant annwyl ac felly mae ganddo gynllun ar gyfer yr eiliad mwyaf dinistriol yn eich bywyd.

Yn yr iaith Hebraeg y gair am ‘toredig’ yw “shabar” ac mae’n golygu ‘rhwygo’n dreisgar, malu neu fathru, dinistrio neu gywasgu, chwalu neu dorri.’ Mae Hebraeg hynafol yn iaith ddisgrifiadol iawn ac felly mae’r gair “shabar” yn dod, nid yn ig gyda diffiniad, ond hefyd mewn amgylchiadau roedd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywbeth. Roedd y gair hwn yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio llongau oedd wedi’u dryllio’n llwyr o ganlyniad i wyntoedd ffyrnig a gwyllt. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r ffordd roedd anifeiliaid yn llarpio eu hysglyfaeth. Gellid ei gyfieithu’n llythrennol fel, ‘y rhai calon doredig.’

Mae’r gair am ‘galon’ yn y geiriau penodol hyn o’r Beibl yw’r gair “leb” ac mae’n cyfeirio at enaid neu galon dyn. Mae’n cwmpasu ein cymeriad moesol, archwaeth, emosiynau, nwydau a hyd yn oed y meddwl a'r cof.

Pan mae’r Salmydd yn dweud, ‘Mae'r Arglwydd yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau,” mae ei eiriau’n cael eu dweud gyda thynerwch, gofal a thosturi mawr. Mae'n atgoffa'r holl Gristnogaeth yn y cyfnodau sydd eto i ddod fod yr Arglwydd yn rhoi sylw cariadus i'r rhai sy'n dioddef poen na ellir ei amgyffred. Falle fod y boen hon wedi ei hachosi gan dymestl fawr yn dy fywyd, neu gan berson gwyllt a ffyrnig, ond y mae'r Arglwydd yn sefyll yn astud wrth dy ymyl gan dalu sylw dyfal i'th galon ddrylliog a gwaedlyd.

Os wyt erioed wedi dioddef o’r cyflwr arteithiol hwn, gallaf dy sicrhau nad oeddet fyth allan o ofal Duw. Os wyt heddiw’n teimlo wedi dy rwygo’n emosiynol ac yn meddwl tybed sut byddi di’n llwyddo i oroesi’r diwrnod, dw i am dy gysuro ei fod w gyda thi nawr.

Ysgrythur

Diwrnod 25Diwrnod 27

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com