Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 28 O 30

Nid yw Duw wedi stopio bod yn Dduw oherwydd dy fod yn y dyffryn. Nid yw wedi rhoi'r gorau i fod yn Dduw daioni a charedigrwydd oherwydd dy fod naill ai'n siomedig neu â chalon doredig.

Byddai pob un ohonom ni’n hoffi treulio’n bywydau ar ben mynydd. Byddai pob un ohonom ni’n hoffi cael llond ysgyfaint o aer ffres y mynydd a mwynhau’r olygfa fendigedig. Gelli di weld pethau o ben y mynydd fyddet ti fyth yn ei weld yn y dyffryn. Mae pethau’n cymryd eu persbectif iawn o ben y mynydd. Rwyt lythrennol ar ben y mynydd. Dyma’r lle i frenhines - brenhines y mynydd!

Does dim un ohonom ni eisiau cyfnod mewn dyffryn o anobaith a siom. Mae’n amhosib bron gweld tu hwnt i’r goedwig drwchus dych chi ynddi.

Ac eto mae yno lystyfiant a blodau’n egino. Does yna ddim byd yn tyfu ar ben y mynydd ac mai cerrig a chlogfeini sydd yno. Dydy pen y mynydd ddim yn lle ar gyfer gwreiddiau - fel yn y dyffryn islaw. Yn y dyffryn y bydd tyfiant mwyaf godidog dy fywyd yn digwydd ac yno y bydd ffrwyth yr Ysbryd yn tyfu'n helaeth iawn. Gad imi ei ddweud fel hyn. Yn y dyffryn ble bresenoldeb mewn cyfnodau o dy galon, y bydd dy gynhaeaf mwyaf.
Mae Duw eisiau i ti fod â mwy na digon, nid yn unig pan mae bywyd yn dda ac mae’r olygfa’n wefreiddiol; mae e eisiau i ni gael mwy na digon yn nyffryn poen a diffeithwch ble mae popeth wedi torri. Mae Duw yn gosod o’th flaen bwrdd llawn bendithion fydd yn iachau dy galon doredig ac yn bwydo dy enaid llwglyd.

Mae Duw eisiau iti fod yn ddyn neu ddynes sy’n gwybod nad oes gan siomedigaeth y gallu i’th ddad-benodi. Mae Duw eisiau iti fod yn berson sy’n nythu yn ei bresenoldeb mewn cyfnodau o anobaith a siom. Dydy Duw ddim eisiau i fod yn Gristion sydd byth yn beio ond un sy’n bendithio bob amser. Mae Duw eisiau iti fod yn grediniwr sy’n dwyn ffrwyth yn ystod cyfnodau gwaethaf bywyd.

Ysgrythur

Diwrnod 27Diwrnod 29

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com