Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Bob nos pan fydd y cloc yn taro hanner nos, dwyt ti ddim yn troi'n bwmpen ond rwyt ti'n derbyn anrheg ddisglair newydd sbon. Dŷn ni i gyd yn derbyn yr un faint o’r rhodd hwn waeth beth yw dy bwysau, golwg, math o swydd neu os wyt yn briod ai beidio. Pan mae’r wawr yn araf ddeffro, ti yw unig berchen o 1440 o’r peth mwyaf pwerus yn hanes dynoliaeth. Un eiliad fach, yn dilyn hanner nos, bob dydd o’th fywyd, mae’r nefoedd yn agor ei ffenestri i 1440 o funudau gwerthfawr sydd heb eu cyffwrdd. Ti sydd i benderfynu sit i dreulio’r munudau hynny! Mae amser yn rhad ac am ddim, ond mae'n amhrisiadwy!
Rwyt yn gallu hel clecs neu addoli - rwyt yn gallu bod yn llawn dicter neu ddiolchgarwch - rwyt yn gallu loncian pum milltir neu wylio teledu drwy’r dydd - Rwyt yn gallu darllen llyfr neu fynd i siopa. Ti’n unig all benderfynu sut i wneud y gorau o’r rhodd anhygoel ac amhrisiadwy hwn. Rwyt yn gallu chwerthin neu grio - swnian neu lawenhau - bod yn negyddol neu bositif - i fod yn chwerw neu’n felys dy fyd. Mae’r 1440 o’r darnau hyn o amser yn perthyn i ti, a neb ond ti! Nid dy ŵr, dy fos, na’th blant sydd biau nhw. Ti sydd â’r hawl i’w gwario fel wyt ti’n mynnu.
Mae’n wir, fod yna bethau sydd raid i ni ei wneud. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf ohonom weithio ons gallwn ddewis sut i weithio. Gallwn un ai fynd i’r swyddfa gydag agwedd amhleserus, yn llawn pryder a negyddiaeth neu gallwn gerdded i mewn gyda chalon lawen, agwedd gwaith soled ac yn gweddïo dros ein cyd-weithwyr yn y swyddfa. Rwyt yn gallu casáu pob eiliad o’th amser yn y swyddfa a gwastraffu amser drwy hel clecs gyda’r genethod arall, chwarae gemau cyfrifiadurol a sleifio allan o’r drws bum munud yn gynnar. Neu rwyt yn gallu sylweddoli fod Duw wedi dy roi yn y swyddfa benodol hon i fod yn fendith ac i ddod â bodolaeth, bendith a chymeriad Duw i mewn i’r gweithle.
Mae’n wir fod angen iti ofalu am rieni sy’n heneiddio, magu plant a mynd â’r biniau allan. Fod bynnag, ti sy’n dewis sut i wneud dy ddyletswyddau. Rwyt yn gallu martsio drwy fywyd â chamau trwm a chalon rwystredig neu rwyt yn gallu perfformio holl anghenion bywyd gydag amynedd, cariad a llawenydd.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com