Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Weithiau, y bobol hynny dŷn ni’n eu caru fwyaf sy’n dod â’r gwaethaf allan ohonom ni. Y rhai yr ydym mewn cysylltiad dyddiol â nhw sydd fel petai nhw’n ein draenio o bob tamaid o rinwedd Cristnogol nes iddyn nhw amlygu craidd hyll ein personoliaeth.
Mae yna bobol anodd gan bob un ohonom a allasai fod wedi’u gosod yn strategol gan Dduw ei hun. Dychmyga hynny! Mae Duw’n dy drystio di ddigon i fod yn garedig wrth bobl annifyr. Mae Duw eisiau iti dyfu yn ffrwyth yr Ysbryd ac felly, mae’n caniatáu i ddynes daeog a checrus i ddod i mewn i gylch melys dy fywyd. Mae Duw angen dynion am ferched ym mhob cenhedlaeth fydd yn caru’r hyn na ellir ei garu, bod yn garedig wrth yr angharedig, bod yn amyneddgar yn wyneb hyll rhai diamynedd a bendithio’r rhai sydd bendant yn greulon.
I ddweud y gwir wnaeth Duw dy greu i garu pobl sy’n hynod ddigywilydd. Cefaist dy osod yn y cyfnod hwn o hanes oherwydd ei fod wedi trystio y byddi di’n aeddfedu a gadael i’w ogoniant i lifo allan ohonot ti i mewn i dywyllwch eneidiau Ni fyddi fyth yn gwneud hyn gyda’th bersonoliaeth dy hun neu os wyt yn dibynnu ar yr etifeddiaeth emosiynol a roddwyd iti gan dy rieni. Dim ond pan fyddi di’n penderfynu’n dy galon dy fod am fod fel Iesu y byddi di'n gwneud hyn, pan fyddi di’n penderfynu bod fel Iesu na fel ti dy hun. Hefyd, pan fyddi di’n penderfynu fod ei ffordd e’n well na dy ffordd dy hun ac nad wyt ti’n meddwl fod gen ti well syniad na Duw.
Pan fyddi’n dangos cariad mewn sefyllfaoedd stormus a dewis bod yn garedig, yn hytrach na chael ffit o dymer ffrwydrol, rwyt yn deud, “Wna i actio fel fy Nhad, dw i’n rhan o’i deulu a dyma dŷn ni’n ei wneud. Dŷn ni’n caru pobl na ellir eu caru. Dyna yw busnes y teulu; cyrraedd allan gyda charedigrwydd dwyfol i bobl gecrus.” Paid ag anghofio ychwaith dy fod wedi etifeddu cod genetig y teulu sy’n dy alluogi i garu pobl anodd. Dyna beth mae Cristnogion yn ei wneud!

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com