Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Os oes gen ti broblem gydag ofn neu bryder, fedra i ddweud wrthot ti’n union o ble y daeth! Mae Cristnogion sydd wedi lawr lwytho ofn a phryder i ddyfnder eu meddwl, wedi cael eu gwybodaeth sylfaenol gan y diafol ei hun. Gad imi fod yn hollol blaen yma - rwyt ti’n gwrnado ar y llais anghywir! Stopia wrando am funud ac agor y Beibl!
Mae’r gair Groeg am “ofn” mewn Hebraeg hynafol ac yn y Roeg, yn awgrymu dianc neu redeg i ffwrdd oddi wrth rywbeth neu rywun. Felly, pan mae’r Beibl yn rhoi cyfarwyddyd i ni “beidio ofni,” yn ei hanfod, mae’n dweud, “Paid â rhedeg i ffwrdd!” Prin iawn yw'r rheiny ohonom sy’n rhedeg i ffwrdd oddi wrth sefyllfa sy’n ein dychryn, ond mae’r man ble byddwn yn rhedeg i ffwrdd oddi wrtho, yn ein meddwl.
Mae’r geiriau “paid ag ofni” yn ymddangos ar y cyd yn y Beibl o leiaf 144 o weithiau! A phan mae’r Beibl yn dweud, “paid ag ofni” mae’n dweud i beidio rheg i ffwrdd. Pan rwyt yn ofni neu bryderu, yn hytrach na rhedeg i ffwrdd, rwyt ti angen rhedeg i gwrdd popeth sydd gan Dduw ar dy gyfer. Y rheswm mae Satan yn trio rhoi ysbryd o ofn ynot ti ydy, fel dy fod yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth fendithion a grym Duw. Y gwrthwyneb i redeg i ffwrdd ydy bwrw yn dy flaen. Pan fyddi dii'n fab neu'n ferch i'r Duw Goruchaf ac yn gwybod realiti gwasanaethu Crist, rwyt yn bwrw yn dy flaen. Paid ag pendroni dros syniad arall sy'n dod oddi wrth dad pob celwydd ond bwrw yn dy flaen tuag at y nod!
Os wyt ti’n rhedeg ffwrdd mewn ofn. Rwyt yn rhedeg am yn ôl i dy orffennol ac i ffwrdd oddi wrth freichiau Duw. Os wyt ti’n bwrw yn dy flaen, rwyt yn symud yn dy flaen i gyfeiriad y rhodd o uwch-alwad Duw yng Nghrist Iesu!
O wybod nad yw ysbryd o ofn wedi’i roi iti gan Dduw, beth mae Duw wedi’i roi iti? Mae e wedi rhoi i ti ysbryd o nerth a chariad a meddwl cadarn. Mae dy feddwl angen derbyn y neges dy fod yn berson pwerus! Wyt ti’n gwybod fod y diafol yn gwybod dy fod yn bwerus? Dydy e ddim eisiau iti wybod dy fod yn bwerus! Datgan hynny heddiw - yn uchel - a heb ofn:
Wna i ddim rhedeg i ffwrdd mewn ofn ond fe wna i fwrw ‘mlaen i bopeth sydd gan Dduw ar fy nghyfer!
Dyna ni – onid oedd hynny’n teimlo’n dda?

Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com