Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 15 O 30

Mae gan Dduw wrthwenwyn ar gyfer blinder, a hynny yw “aros” ar gyfer dy enaid blinedig a lluddedig. Y gwrthwyneb ysbrydol i flinder yw, yn syml, aros yng Nghrist.

Dŷn ni i aros yng nghwmnïaeth ddi-dor a chyson gydag Iesu Grist. Nid ymweliad wythnosol yw hyn, ond dŷn ni wedi ein gwahodd i adeiladu bywyd yn ei bresenoldeb. Mae’r croeso yna i wneud dy gartref go iawn yn ei bresenoldeb. Dydy ei bresenoldeb ddim i fod fel seibiant o’r storm neu’n dy wyliau hyfryd, ond mae’n le ble gelli di adeiladu dy fywyd a pheidio gadael fyth! Pan mai presenoldeb Iesu Grist yw dy gartref parhaol ac rwyt yn caniatáu iddo sibrwd yn dy glust gynllun ar gyfer bob diwrnod, pob awr, a hyd yn oed munudau penodol o dy ddydd, dyna pryd fydd ei ffrwyth godidog yn hynod o hyfryd ac amlwg yn dy fywyd ffrwythlon.

Mae’r gair “aros” yn y Roeg yn cyfieithu fel “parhau.” Pan fyddi’n aros yng Nghrist bob dydd wrth iti lenwi dy hun â manna ei Air ac adnewyddu dy hun yn ffrwd fywiol addoliad, byddi’n sicr yn drech na’r diafol a’i strategaethau ar dy gyfer. Ni fyddi bellach yn un sydd dan straen ac yn flinedig ond byddi’n ddarlun o iechyd a hyfrydwch wedi’i feithrin, wrth i ti aros yng Nghrist.

Ysgrythur

Diwrnod 14Diwrnod 16

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com