Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 14 O 30

Mae Geiriadur Beiblaidd yn diffinio blinder fel “"blinder; teimlo fel llewygu; wedi blino’n lân; blinedig, sâl, lluddedig, a bod yn ddiamynedd."

Falle bod y geiriadur Beiblaidd newydd dy ddisgrifio di. Beth bynnag, dyna’r “ti” mae’r gelyn ei eisiau iti fod. Mae Satan yn oddefgar, twyllodrus a chyfrinachol a bydd yn dy flino unrhyw ffordd y gall wneud hynny. Mae'r llwybr i flinder yn un byr a byddi’n cyrraedd blinder yn gynt nag y byddet ti fyth yn ei gredu.

Mae’r diafol, dy arch-elyn eisiau iti fod wedi blino’n lân drwy gydol dy fywyd. Wrth iti lenwi dy fywyd â phethau a phrysurdeb mae e’n chwerthin nerth ei ben arnat, gan wybod ei fod wedi ennill y frwydr.

Mae Satan yn blino lân seintiau’r Goruchaf gyda phrysurdeb a’r hyn sy’n gwasgu arnat. Mae Satan yn gwybod y byddi di’n colli bob brwydr os byd e’n llwyddo i’th flino’n lân. Beth fyddi di’n ei golli? Nid dy iachawdwriaeth dragwyddol wrth gwrs, ond dy dymer ac amynedd. Byddi hefyd yn colli sy bersbectif a’th dawelwch meddwl. Falle y byddi’n colli dy greadigrwydd a dy ddisgyblion.

Cynllun y diafol yw dy gadw mor brysur a thynnu dy sylw oddi ar faterion sylfaenol bywyd fel dy fod yn byw bywyd o fod wedi blino’n lân a bodolaeth luddedig, yn hytrach na bywyd helaeth. Dydy’r diafol ddim yn dy demtio gyda drygioni amlwg ond gyda phethau sy’n ymddangos yn dda. Bydd Satan yn defnyddio rhywbeth sy’n ymddangos yn dda ar y pryd i’th ar wain oddi wrth beth sydd orau ar gyfer dy fywyd. Pa beth da heddiw sy’n tynnu dy sylw oddi wrth y gorau sydd gan Dduw ar dy gyfer heddiw? Falle y bydd pethau da yn dy flino’n lân, ond bydd y gorau gan Dduw yn dy nerthu a dod â heddwch i’th fywyd.

Yn aml, pan dw i’n teimlo fel mod i wedi fy llethu dw i’n atgan i’r diafol a’i ffyliaid gwân, “Dydych chi ddim yn mynd i fy mlino’n lân - Dw i’n mynd i’ch blino chi’n lân gyda mawl a Gair Duw!” Ar ôl iri wneud y datganiad dechreua ail werthuso dy ddewisiadau, fel dy fod yn torri’r cylch o flinder yn dy fywyd. Clustnoda heddiw fel y diwrnod lle na fyddi bellach yn rhoi fewn i alwadau brys, ond yn ymroi i ddisgyblaethau tragwyddol, pwysig. Creda fi, dim ond ychydig o ddewisiadau strategol fydd angen i ti eu gwneud i ddisodli dy flinder gyda heddwch perffaith Duw.
Diwrnod 13Diwrnod 15

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com