Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Pan oedd fy mam a’n nhad yn briod, gawson nhw hen ddresel gan rieni fy nhad. Roedd y ddresel hon wedi bod yn eu cwt ieir am ddegawdau, ond teimlodd fy nain, mam fy nhad, yn teimlo y gallai fy rhieni wneud defnydd o’r ddresel yn eu cartref newydd. Roedd y ddresel yn llychlyd, gyda llawer o faw ieir drosti a phlu o lwyth o ieir. Wnaeth fy nain drio’i glanhau ond roedd hi’n amhosibl, felly aeth ati i’w pheintio gyda phaent gwyrdd hyll.
Arhosodd y dresel ar ben grisiau ein cartref drwy gydol fy mhlentyndod.
Penderfynodd mam gael adnewyddu’r ddresel a thynnu’r paent, felly aeth hi â’r ddresel at ffrind i’r teulu oedd wedi sefydlu busnes adnewyddu dodrefn yn ei garej.
Esboniodd Mr. C. ei fod wedi ymchwilio nodweddion y ddresel a sylweddolodd fod y ddresel wedi’i gwneud yn ystod y Rhyfel Chwyldroadol a’i bod yn drysor gwerthfawr. Dwedodd Mr. C. ei bod yn tebygu i ddodrefn wnaed ar gyfer George Washington! Gwrthododd ei chyffwrdd a’i bod yn werth degau o filoedd o ddoleri.
Mynnodd mam mai Mr. C. oedd hi ei eisiau i adnewyddu’r darn hwn o hanes. Cymrodd fisoedd i Mr. C. adnewyddu’r ddresel yn ofalus i’w cyflwr gwreiddiol. Ar ôl glanhau’r ddresel dechreuodd Mr. C. ei hadnewyddu i’w harddwch gwreiddiol.
Ti ydy’r ddresel - cefaist dy wneud i’th werthfawrogi a derbyn gofal. Ond, yn lle, rwyt wedi dewis byw yng nghwt ieir bywyd ac rwyt wedi dy guddio dan laid a degau o flynyddoedd o faw. Yna, mae rhywun hunanol wedi dy beintio mewn lliw cyfoglyd. Mae Duw yn dymuno cael gwared ar hynny i gyd a'th adfer yn dyner ac yn gariadus i harddwch naturiol Ei greadigaeth. A wnei di ganiatáu iddo wneud hynny? Rwyt wedi dy greu ar ei ddelwedd e i fod yn rhan o'i strategaeth ar yr adeg hon mewn hanes.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com