Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Fe wnaeth Duw ti i ffynnu’n ddiddiwedd. Fe’th gynlluniodd yn ysbrydol ar gyfer digonedd ysbrydol ac emosiynol ym mhob tymor o’th fywyd. Ei gynllun oedd na fyddet ti fyth yn crino’n emosiynol a chael dy sathru gan ddicter, iselder a phryder. Roedd Duw yn gwybod y byddem ni i gyd yn profi stormydd gwynt dieflig a llygredd ein diwylliant, ond roedd ei athrylith greadigol yn darparu ffordd i aros yn gysylltiedig â'r winwydden yn ystod holl newidiadau tymhorol afreolaidd bywyd. Ewyllys Duw i ti yw iti ffynnu ym mhob rhan o'th fywyd, ac mae hynny'n cynnwys yn dy emosiynau!
Mae’r gair “ffynnu” yn air Hebraeg sy’n gyfoethog mewn ystyr ac yn ei ddefnydd. Mae wastad yn cyfeirio at rywbeth neu rywun sy’n tyfu ar raddfa tu hwnt i bob amgyffred. “Ffynnu” yw’r darlun o blanhigyn sy’n mynd i dyfu er gwaethaf cyflwr yr hinsawdd neu unrhyw sychder.
Mae’r Salmydd yn canu, “Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd.” Os yw’r Beibl yn defnyddio’r gair “cyfiawn” i ddisgrifio person, mae’n golygu fod y person wedi ymrwymo’i hun i Dduw. Byddi di’n ffynnu’n unol â’th gysylltiad â Duw. Os byddi’n dewis gwledda yn ei bresenoldeb bob dydd, a threulio amser yn darllen ei Air ac yn gweddïo, bydd dy fywyd yn dangos twf sy’n dod o’r cysylltiad â’i gyfiawnder.
Mae llawer o Gristnogion yn fwy cysylltiedig â phoen eu gorffennol nag ydyn nhw â realiti presenoldeb Duw o ddydd i ddydd. Mae’n wirioneddol bwysig i ti’n emosiynol os wyt ti’n darllen dy Feibl bob dydd ai peidio. Mae’n wirioneddol bwysig i ti’n emosiynol os wyt addoli, er gwaethaf dy siom. Mae’n wirioneddol bwysig i ti os wyt ti’n gweddïo dros y rhai sydd wedi bod yn gas wrthot ti. Mae wir yn bwysig.
Pan fyddi’n gwneud y dewis gorau, bydd Duw’n peri cynnydd! Byddi’n dechrau ffynnu tu hwnt i bob amgyffred, yn ysbrydol lac yn emosiynol, oherwydd rwyt yn derbyn bywyd gan Dduw. Bydd ffrwyth yr Ysbryd yn dy wyrthiol wneud yn rhywun sydd â natur a phersonoliaeth Duw.
Mae’n rhaid i ti weithio law yn llaw â Duw nes bod dy ymatebion emosiynol i’r hinsawdd o'th gwmpas yn ganlyniad o’th gysylltiad dwfn a chyfoethog ag e.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com