Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 11 O 30

Un o'r elfennau hanfodol sy'n ofynnol ar gyfer adeiladu ysbryd cryf yw bod yn ymroddedig i'r eglwys ac i gymdeithas gyda chredinwyr eraill. Paid byth â datblygu'r arferiad drwg o fod allan o'r arferiad o fynd i'r eglwys! Mae Ysbryd Duw yn wirioneddol bresennol pan fydd ei ddilynwyr yn dod at ei gilydd, a bydd yn cryfhau dy ysbryd wrth iti ddarganfod llawenydd addoliad cytûn. Mae Duw yn caru ei gorff o gredwyr ac mae’n hyfrydwch calon i’n Tad pan fyddwn ni i gyd yn ymgynnull â’n gilydd ar gyfer diwrnod o addoliad, gan astudio Gair Duw a chael cymdeithas â'n gilydd. Nid yn unig mae' n ei garu - ond mae'n ei garu pan dŷn ni'n ei garu!

Y cysyniad o fywyd eglwysig a chasglu ynghyd yn ei enw oedd ei syniad e o'r diwrnod yr aeth Iesu yn ôl i'r nefoedd. Roedd yr Ysbryd Glân yn gwybod na fyddem yn gallu goroesi fel Cristnogion unigol, ond byddem angen yr adnoddau goresgynnol a gyflwynir i ni pan fyddwn yn casglu at ein gilydd mewn ffydd.

Paid byth â diystyru'r gwyrthiau sy'n digwydd y tu mewn i ti pan fyddi'n dewis dod ynghyd â chredinwyr eraill. Pan fydd Gair Duw’n cael ei bregethu... rwyt yn tyfu. Pan fyddi’n addoli ar y cyd... mae ffrwyth yr Ysbryd yn dy fywyd yn cael ei fwydo. Pan fyddi’n degymu a rhoi yn y casgliad... mae dy allu i adael effaith yn cynyddu tu hwnt i bob amgyffred. Pan fyddi’n mynd ati’n egnïol i benderfynu mynd i berthynas iach â dynion a merched sydd wedi dewis gwasanaethu Duw yn llwyr ... mae chwerwder a dicter yn dechrau gadael mewn ofn.

Does yna ddim un eglwys berffaith oherwydd mae pobl yn amherffaith. Os oes rhywun yn brifo dy deimladau yn yr eglwys, penderfyna gerdded mewn maddeuant a bendithio’r troseddwr. Bydd Duw’n dy gwrdd mewn dull nad yw’n gallu yn unrhyw le arall. Dydy mynd i’r eglwys ddim yn gyfraith, ond mae’n ddewis iach fydd yn fuddiol i dy bresennol a dy ddyfodol! Dw i’n gwarantu hynny i ti!
Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com