Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

DYDD 10 O 30

Ffordd bwerus o wneud siŵr fod dy ysbryd yn tyfu i mewn i’r rhan fwyaf cadarn o’r dyn mewnol ynot yw, i weddïo’n ddiddiwedd. Wnes i ddim dweud swnian yn ddiddiwedd - gweddïo’n ddiddiwedd ddwedes i.

Mae cymaint o Gristnogion yn treulio’u bywydau’n swnian a chwyno i’r Arglwydd ac yna maen nhw’n meddwl pam nad ydy eu gweddïau’n cael eu hateb! Pan fyddi’n gweddïo, gweddïa gyda llawenydd! Pan fyddi’n gweddïo, tyrd i’w bresenoldeb yn eofn a chyda nerth! Pan fyddi’n gweddïo, gad dy enaid emosiynol wrth y drws, a chymra dy ysbryd bodlon i mewn i Ystafell yr Orsedd a thorheulo yn ei bresenoldeb hyfryd!

Mae Duw’n dy garu pan fyddi’n swnian... ond, pan fyddi’n ymuno dy ysbryd a’i ysbryd mewn symffoni fawreddog o fawl dyna'r foment y mae nef a daear yn dechrau symud ar dy ran. Fel Cristnogion, nid grŵp o bobl ydyn ni sy’n cyfyngu ein canu a’n gorfoledd i awyr heulog ac amgylchiadau godidog, ond dŷn ni’n benderfynol o weddïo gyda llawenydd, hyd yn oed pan fydd ein bywydau’n chwalu. Mae'n rhan o'n DNA i ddod i'w bresenoldeb gyda diolchgarwch beth bynnag sy'n ein disgwyl y tu allan i ddrws ei bresenoldeb.

Roedd y tri bachgen Hebraeg yn addoli yn y ffwrnais danllyd! Canodd Paul a Silas tua hanner nod yn y carchar! Roedd Steffan yn addoli wrth gael ei labyddio gyda cherrig! Roedd Hanna yn addoli pan nad oedd hi eto'n feichiog! Ymuna â’r llu o gredinwyr o bob cenhedlaeth mewn hanes sydd wedi dewis gweddïo gyda llawenydd.
Diwrnod 9Diwrnod 11

Am y Cynllun hwn

Holy Emotions - Biblical Responses to Every Challenge

Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com