Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Heddwch CollSampl

Missing Peace

DYDD 7 O 7

Heddwch ar gyfer y Dyfodol

Dŷn ni’n aml yn teimlo diffyg heddwch pan nad oes gennym holl ddarnau ein cynllun bywyd. Pan dŷn ni ddim yn gwybod beth fydd canlyniad sefyllfa, neu pan fyddwn yn teimlo na allwn reoli’r canlyniad, dŷn ni’n poeni. Ond gallwn ddod o hyd i heddwch mewn persbectif newydd.

Falle nad ydyn ni’n gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol i ni’n bersonol, ond dŷn ni’n gwybod sut bydd y dyfodol yn dod i ben i bawb - gydag Iesu’n dod nôl i gywiro popeth aeth o’i le. Dyma gipolwg o Datguddiad, pennod 21:

Dw i'n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy'n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi'n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan - yn ysbryd, enaid a chorff - yn cael ei gadw'n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl. 1 Thesaloniaid, pennod 5, adnod 23 beibl.net

Wrth iti feddwl am ffyrdd i ddod o hyd i’r heddwch coll yn dy fywyd, cofia fod heddwch go iawn ddim ond yn dod oddi wrth Dduw. Ef yw’r unig un all gymryd ein sefyllfa ddrylliedig a chreu rhywbeth newydd. Ond wrth iti chwilio amdano ystyria sut y gelli rannu ei heddwch gyda’r bobl o’th gwmpas.

Fedrith heddwch ddim cael ei ddwyn oddi arnom ni. Mae Heddwch yn Berson. Ei enw yw Iesu. Ac wrth i ni ddathlu ei enedigaeth dros y Nadolig, dŷn ni’n cael ein hatgoffa ein bod yn disgwyl iddo ddod yn ôl Ond dŷn ni’n disgwyl gyda phwrpas, a dŷn ni’n disgwyl gyda heddwch, gan wybod fod ein Duw’n ffyddlon. Mae e’n dda. Ac ef yw’r heddwch coll mae ein heneidiau a’n byd i angen i fod yn gyflawn.

Gweddïa: O Dduw, diolch am anfon Iesu fel ein heddwch. Llenwa fi gyda mwy o’th heddwch wrth imi dy drystio, a gwna fi’n debycach i ti, wrth imi ddisgwyl iti ddod yn ôl. Heddiw dw i'n bwrw fy holl ofalon arnat ti, gan wybod mai ti yn unig sy'n gallu eu cario nhw i gyd. Tywys fi wrth imi ddod yn hyrwyddwr heddwch, a dangos i mi sut i ddod â mwy o dy Deyrnas di yma ar y ddaear. Yn enw Iesu, Amen.
Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Missing Peace

Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/