Heddwch CollSampl
Heddwch mewn Anhrefn
Ydy hi’n bosibl bod yn heddychlon, hyd yn oed pan wyt ti ynghanol rhywbeth poenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond dydy hynny ddim yn gwneud y broses yn llai poenus. Yn wir, rwyt ti’n gallu profi heddwch a phoen ar yr un pryd.
Roedd y disgyblion a dilynwyr cynnar Iesu’n ymwybodol o hyn. Doedd stormydd ddim yn beth dieithr iddyn nhw. Ac er eu bod bob amser yn aros yn ffyddlon, nid yw hynny'n golygu na wnaethon nhw erioed brofi rhwystredigaeth, dryswch, amheuaeth na phryder. Edrycha ar yr hyn a ysgrifennodd Paul am ei brofiadau:
Dŷn ni eisiau i chi ddeall ffrindiau annwyl, mor galed mae pethau wedi bod arnon ni yn nhalaith Asia. Roedd y pwysau yn ormod o lawer i ni ei ddal yn ein nerth ein hunain. Roedd yn ein llethu ni! Roedd yn ein llethu ni!. Roedden ni'n meddwl ei bod hi ar ben arnon ni, a'n bod ni wir yn mynd i farw.. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni'n hunain. Fe ydy'r Duw sy'n dod â'r meirw yn ôl yn fyw! 2 Corinthiaid, pennod 1, adnodau 8 i 9 beibl.net
Doedd Paul ddim eisiau dibrisio eu profiadau. Doedd e ddim eisiau i bobl feddwl eu bod yn dod o hyd i bwrpas heb boen. Ond nid oedd ychwaith am ganolbwyntio cymaint ar ei ddioddefaint nes iddyn nhw fethu'r hyn yr oedd Duw yn ei wneud yn y stori.
Dŷn ni’n tueddu i fod eisiau heddwch heb boen. Dŷn ni’n tueddu i feddwl os nad yw rhywbeth yn mynd yn dda, dydy e ddim o unrhyw werth. Ond wnaeth Iesu fyth addo bywyd hawdd i ni ar y ddaear. Yn wir, gwnaeth yn siŵr ein bod yn gwybod y bydden ni’n cael trafferthion yn y byd hwn. Ond, hefyd, gadawodd ni gyda’r gobaith a heddwch ei fod wedi trechu’r cyfan.
Ac er ei fod wedi trechu’r cyfan. Mae e’n dal i’n cysuro drwy’r cwbl. Yn yr un darn yn Corinthiaid mae Paul yn sgwennu am sut wnaethon nhw brofi cysur goruwchnaturiol Duw drwy anhrefn eu hamgylchiadau. Ac mae e’n ei gyflwyno fel cyfle i ni estyn yr un cysur i eraill.
Dŷn ni’n mynd i wynebu stormydd yn y bywyd hwn. Ond mae’r stormydd hynny’n aml yn datgelu cyflwr ein ffydd. Ydyn ni'n ymateb trwy weld arwyddocâd ein dioddefaint? Neu ydyn ni'n canolbwyntio ar y cwestiynau anghywir?
… ““Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?” Marc, pennod 4, adnod 38 beibl.net
Onid dyna’r cwestiwn rydyn ni’n cael ein temtio fwyaf i’w ofyn yn ystod stormydd yn ein bywydau ein hunain? Duw, wyt ti ddim yn malio?
Mae Iesu'n ymateb trwy setlo'r storm ond hefyd yn herio eu cysur. Roedd yn ddigon gofalus nid yn unig i ddatrys eu problem ond hefyd i ofyn am gyflwr eu ffydd.
Pan dŷn ni'n gwybod pwy yw Iesu, gallwn fod yn hyderus ei fod yn gofalu am ein stormydd, a'i fod gyda ni yn ystod y stormydd. Felly, a allwn ni gael heddwch yn ystod poen? Medrwn. Ond mae'n gofyn am ffydd - ymddiried bod pwrpas i'n poen ac nad yw ein Duw yn pryderu trwy'r broses.
Am y Cynllun hwn
Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.
More