Heddwch CollSampl
![Missing Peace](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F23174%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Heddwch gyda Duw
Dŷn ni wedi siarad am gofio addewidion Duw a’i gymeriad, ond beth am pan fyddi di ddim yn teimlo heddwch gyda Duw? Falle dy fod yn rhwystredig gyda Duw am ei fod yn teimlo fel ei fod wedi dy siomi’n ddiweddar. Neu, falle, fedri di ddim credu bod duw mor gariadus yn gallu caniatáu gymaint o galedi yn y byd.
Dyma beth sydd raid iti gael gwybod: Gall Dduw ddygymod â holl rym dy deimladau.
Byddai’n well ganddo leisio dy bryderon, na cherdded i ffwrdd oddi wrtho. I ddweud y gwir, mae Duw’n dy eisiau gymaint, fel ei fod wedi anfon ei Fab ei hun i ddarparu llwybr ar dy gyfer tuag at heddwch
Heb Iesu, roedden ni wedi ein gwahanu oddi wrth Dduw oherwydd ein pechod. Am fod Duw’n Dad cariadus, roedd e eisiau perthynas â ni. Felly, darparodd lwybr ato:
Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai. Cafodd ei gosbi i wneud pethau'n iawn i ni;, ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu. Eseia, pennod 53, adnod 5 beibl.net.
Adferodd Iesu heddwch i’n perthynas gyda Duw, sy’n golygu bod gennym fynediad llawn a rhydd trwy Iesu at ein Tad sy’n ein caru, yn maddau i ni, ac yn gofalu amdanom. Mae'n iawn gwylltio ag e pan nad yw pethau'n mynd y ffordd yr hoffech ti - paid â gadael i boen dy amgylchiadau gymylu daioni ei gymeriad.
Mae’r Parch Amy Groeschel yn dweud fel hyn: “Mae'n rhaid i ni hysbysu poen ein teimladau gyda'r hyn rydyn ni'n gwybod trwy ffydd sy'n wir. ”
Mae dy deimladau’n ddilys ond paid gadael iddyn nhw dy drechu. Mae Salm 46, adnod 10 yn atgof pwerus:
Mae e’n dweud, ““Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i! Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd; dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”” Salm 46, adnod 10 beibl.net
Mae’n gorchymyn i ni stopio, a sylweddolimai Duw yw e. Mae ein teimladau’n ddilys ond dydyn nhw ddim bob amser wedi’i gwreiddio mewn gwirionedd. Fodd bynnag, mae Duw, gwrthrych ein ffydd, wastad yn gadarn a gwir felly gallwn ddefnyddio ein ffydd i hidlo ein teimladau.
Dydy hynny ddim yn golygu na allwn fyth gwestiynu Duw. Mae’r salmau’n llawn o Dafydd ac eraill yn crïo allan ac erfyn ar Dduw i wrando. Ond maen nhw wastad yn dod nôl at y gwirionedd - fod Duw yn dda. Mae ganddo gynlluniau da ar ein cyfer. Mae e’n rheoli. Ac mae e’n deilwng o gael ei addoli a’i drystio gennym.
Os nad wyt ti’n teimlo nad oes gen ti edwch gyda Duw, dweda wrth y teimladau hynny am nerth Gair Duw. A chofia’r newyddion da hyn: Iesu yw ein llwybr i heddwch gyda Duw. Gwnaeth y gwaith i ni. Ac ef a dalodd y pris llawn am heddwch.
Am y Cynllun hwn
![Missing Peace](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F23174%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.
More
Cynlluniau Tebyg
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)