Heddwch CollSampl
![Missing Peace](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F23174%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Heddwch Perthynol
Mae ansicrwydd yn tueddu i chwyddo gwrthdaro a barn gref. Ac mewn tymor lle gall “digynsail” fod yn air y flwyddyn, rydyn ni i gyd wedi wynebu rhywfaint o wrthdaro.
Boed yn ddadleuon gwleidyddol sy’n cychwyn dros giniawau gwyliau, sylwadau cyfryngau cymdeithasol sy’n gallu cynhyrfu’r sefyllfa ychydig, neu gael sgyrsiau anodd am ffiniau, weithiau gall y bobl dŷn ni’n eu caru fwyaf achosi’r straen mwyaf inni hefyd.
Ond mae heddwch yn bosib yn ein perthnasoedd. A dweud y gwir, mae dod â heddwch i’r byd yn rhywbeth rydyn ni’n cael ein galw i’w wneud fel dilynwyr Iesu. Yn y Bregeth ar y Mynydd, dywedodd yr Iesu:
Mae'r rhai sy'n hyrwyddo heddwch wedi'u bendithio'n fawr, oherwydd byddan nhw'n cael eu galw'n blant Duw.. Mathew, pennod 5, adnod 9 beibl.net
Sylwa, mae’n dweud “hyrwyddo heddwch” - nid “ceidwad heddwch.” Mae hyrwyddo heddwch yn broses gweithredol. Dydy e ddim yn golygu ein bod yn cytuno â phob safbwynt sy’n cael ei daflu o gwmpas y bwrdd cinio. Dydy e, ychwaith, ddim yn golygu bod rhaid i ni gytuno ar bopeth, neu fyth achosi gwrthdaro. Falle bod y gweithredoedd hynny’n creu’r esgus o heddwch - ond dydy e ddim yn heddwch go iawn.
Er ei fod yn demtasiwn i anwybyddu gwrthdaro, neu esgus nad ydy yna o gwbl, dydy hynny ddim yn ymateb cariadus. Mae Rhufeiniaid, pennod 12, adnod 9 yn ein hatgoffa bod rhaid i gariad fod yn gariad go iawn. Os byddwn yn cuddio ein teimladau briwedig, dydyn ni ddim yn hyrwyddo heddwch - dŷn ni’n osgoi’r broses o wneud heddwch.
Fodd bynnag, mae Paul yn dal ati i’n herio yn Rhufeiniaid, pennod 12 i ystyried sut olwg sydd ar heddwch, a dydy e ddim yn hawdd. Ar ôl ein hannog i fendithio’r rheiny sydd wedi ein brifo, i osgoi chwilio am gyfle i dalu’r pwyth yn ôl, ac i fyw mewn harmoni ag eraill, mae e’n gosod yr her yma:
Gwnewch bopethalwch chi, i fyw mewn heddwch gyda phawb.. Rhufeiniaid, pennod 12, adnod 18 beibl.net
Sylwa, mae’n dweud, “bopeth alwch chi.” Mae hynny’n golygu nad ydyn ni’n cael ein hesgusodi oherwydd ymddygiad yncl gwallgof. Waeth pa mor anhrefnus y mae popeth yn edrych o'n cwmpas, mae Duw yn dal i fod eisiau inni fynd ar drywydd heddwch, boed hynny'n golygu ymgysylltu â rhywun yn uniongyrchol neu dynnu ein hunain o sefyllfa os ydym yn gwybod mai dyna'r ffordd orau y gallwn ddod â heddwch yn y foment honno
Felly, sut elli di hyrwyddo heddwch ymhob sefyllfa? Dŷn ni’n cael ychydig mwy o ddoethineb am hyn gan Iago:
Ond mae'r doethineb sy'n dod oddi wrth Dduw yn y lle cyntaf yn bur. Mae hefyd yn meithrin heddwch, addfwynder, cydweithrediad, caredigrwydd a gweithredoedd da. Mae'n gwbl ddiduedd a diragrith. Bydd y rhai sy'n hybu heddwch drwy hau hadau heddwch yn medi cynhaeaf o gyfiawnder.. Iago, pennod 3, adnodau 17 i 18 beibl.net
Mae bod yn hyrwyddwr heddwch yn debyg i ofyn i Dduw am ddoethineb, ac yna profi’r doethineb hynny trwy werthuso os yw'n llawn heddwch neu'n llawn o’n balchder ein hunain. Mae’n golygu, er ei bod yn iawn i ni rannu ein barn a lleisio ein pryderon, ein bod yn blaenoriaethu pobl eraill uwchlaw ein hunain.
Mae'n edrych fel, bod yn ostyngedig a graslon, pan fyddwn yn rhannu ein persbectif. Mae'n golygu gwerthuso ein cymhellion ar gyfer rhannu a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny gydag adferiad mewn golwg. Ac mae'n edrych fel gofyn, ai ceisio cyfiawnder neu fod yn iawn yw ein nod.
Felly, pan fyddi’n ffeindio dy hun mewn sefyllfa sydd angen neddwch perthynol, oeda. Meddylia’r gorau o’r person arall. Siarada am sut wyt ti’n teimlo neu beth ti’n feddwl. Bydd yn ostyngedig. Dangosa empathi. Gweddïa amdano. A gofynna i ti dy hun pa gamau ddylet eu cymryd nesaf i ddod â heddwch i’r sefyllfa.
Pan fyddi’n gwneud hynny rwyt yn hyrwyddwr heddwch - ac rwyt ti’n blentyn i Dduw.
Am y Cynllun hwn
![Missing Peace](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F23174%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.
More
Cynlluniau Tebyg
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)