Heddwch CollSampl
![Missing Peace](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F23174%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Tawelwch Meddwl
Meddylia nôl i amser yn dy fywyd pan oeddet yn wynebu strygl arwyddocaol. Falle dy fod wedi brwydro pryder, neu iselder. Falle dy fod wedi colli un sy’n annwyl iti. Falle dy fod yn delio â cholli breuddwyd, neu golli beth oeddet ti’n feddwl y byddai dy fywyd yn edrych yn debyg iddo. Beth oedd rhai o'r pethau mwyaf defnyddiol a wnaeth pobl i chi?
Falle na fyddet ti’n cofio’r geiriau ddwedodd rhywun. Ond rwyt ti’n cofio pwy oedd yna ar dy gyfer. Rwyt yn mynd i gofio pwy wrandodd arnat ti, pwy wnaeth droi i fyny, a phwy dreuliodd amser gyda ti.
Pan fyddwn yn wynebu ein stryglau dyfnaf, gallwn fod yn dawel ein meddwl y bydd Duw wastad gyda ni. Yn wir, yn llyfr Eseia, mae Iesu yn cael ei alw’n Emaniwel, sy’n golygu “Mae Duw gyda ni.”
Pan fyddwn yn stryglo i ddod o hyd i heddwch ynghanol ein hamgylchiadau, weithiau, y peth gorau allwn ni ei wneud yw cydnabod fod Duw gyda ni a diolch iddo am y rhodd o’i bresenoldeb..
A’r newydd da yw does dim rhaid i ni wneud hyn yn ein nerth ein hunain. Pan fyddwn yn dilyn Iesu, mae e’n rhoi rhodd arall i ni - presenoldeb yr Ysbryd Glân. Does dim, rhaid i ni barhau drwy, neu fagu hyder a heddwch ar ben ein hunain, yn lle, gallwn ofyn i’r Ysbryd Glân i arwain ein bywydau, amddiffyn ein calonnau, a dwyn ffrwyth sy’n goroesi ein rhwystredigaeth.
Fel mae Paul yn ein hatgoffa:
Mae'r rhai sy'n cael eu rheoli gan y natur bechadurus yn byw i'r hunan, ond mae'r rhai sydd dan reolaeth yr Ysbryd Glân yn byw i wneud beth mae'r Ysbryd eisiau. Os mai'r hunan sy'n eich rheoli chi, byddwch chi'n marw. Ond os ydy'r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw. Rhufeiniaid, pennod 8, adnodau 5 i 6 beibl.net
Pan dŷn ni ar goll yn ein meddyliau am y newyddion, y cyfryngau cymdeithasol, dadl, a’r cwbl sy’n ein gwneud yn gynddeiriog, dŷn ni, yn naturiol, yn mynd i deimlo mewn panig ac wedi ein llethu. Ac er ei bod yn beth doeth cael yr holl wybodaeth, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn llenwi ein meddyliau sy’n bwydo ein heneidiau.
Yn wir, un ffordd o ddod o hyd i heddwch yn Nuw yw drwy gofio addewidion Duw a ffocysu ar yr addewidion hynny, fwy na’th broblemau.
Yn pendroni sut i ddechrau? Darllena Salm 23 drosodd a throsodd, gan atgoffa dy hun fod Duw gyda thi pan fyddi'n wynebu treialon, yn mynd trwy'r dyffrynnoedd, neu angen cysur. Gwna restr o bethau sy'n wir am Dduw. Er enghraifft: Mae'n agos at y rhai sydd wedi torri eu calon. Mae'n darparu heddwch sy'n rhagori ar ddeall. Mae'n lloches ar adegau o helbul. Ef yw ein Cynghorydd Rhyfeddol, ein Duw nerthol, ein Tywysog Tangnefedd!
Heddiw. Os wyt ti’n teimlo’n bryderus neu wedi dy lethu, cofia hyn: Mae Duw’n gofalu amdanat ti, mae e’n dy weld, mae e’n dy garu, mae e gyda thi. Mae e yna ar dy gyfer. A gelli fynd ar ôl heddwch drwy gofio addewidion Duw dros dy broblemau ac ildio dy feddyliau i’r Ysbryd Glân..
Am y Cynllun hwn
![Missing Peace](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F23174%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.
More
Cynlluniau Tebyg
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)