Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Heddwch CollSampl

Missing Peace

DYDD 1 O 7

Heddwch Coll

Bydd y flwyddyn 2020 yn cael ei gydnabod, mwy na thebyg, fel un o’r blynyddoedd mwyaf amhoblogaidd yn ein bywydau. O bandemig byd-eang i ymwybyddiaeth gynyddol o anghyfiawnder hiliol i densiwn a rhaniadau gwleidyddol, mae hi wedi bod yn dymor heriol. Mae llawer ohonom yn teimlo fel bod ein heddwch ar goll, neu hyd yn oed fel pe bai wedi’i ddwyn.

Ond beth os nad ein hamgylchiadau ni sy'n dwyn ein heddwch - beth os ydyn nhw'n datgelu'r diffyg heddwch oedd gennym ni eisoes?

Pan fydd cyfnodau’n troi’n heriol, mae gynnon ni duedd i ramantu’r gorffennol, gan feddwl, pe bai ein profiadau ni yn unig yn wahanol yna fe allem o'r diwedd fod yn hapus a dod o hyd i heddwch.

Ac eto, pob blwyddyn, mae’n ymddangos fel ein bod yn hiraethu am heddwch. Felly, tra dylem gydnabod mor heriol mae’r tymor hwn wedi bod, fedrwn ni ddim rhoi’r bai ar bob brwydr dŷn ni’n ei wynebu. Ni allwn ychwaith ddiystyru’r hyn y mae Duw yn ei wneud, hyd yn oed trwy’r anhrefn

Felly, beth yw heddwch? Sut ydyn ni’n dod o hyd iddo pan fyddwn ni’n rhanedig ac yn bryderus ac yn ansicr am y dyfodol?

Y newyddion da ydy, na cheir heddwch yn absenoldeb problemau. Mae i'w gael ym mhresenoldeb Iesu.

Mae Effesiaid, pennod 2, adnod 14 yn ein hatgoffa bod Iesu wedi dod fel ein heddwch. Nid yn unig i roi heddwch i mi ond i fod yn heddwch gwirioneddol i ni. A dweud y gwir, y gair Groeg am heddwch yw eirene, sydd hefyd yn golygu cyfanrwydd. Wnaeth Iesu ddim dod yn unig er mwyn inni deimlo’n well rai dyddiau. Daeth i’n hadfer ni - a’n perthynas â Duw - i gyfanrwydd.

Mae ein heddwch ynghlwm â phresenoldeb ein Duw digyfnewid. Mae e'r un ddoe, heddiw ac am byth. Mae e’n gyson. Mae e’n dda. Ac mae e’n haeddu ein bod yn ei drystio.

Fyddwn ni ddim yn ffeindio heddwch yn ein hamgylchiadau newidiol neu drwy edrych amdano ein hunain. Iesu yw ein heddwch coll, a phan fydden yn stopio hoelio ein sylw ar ein problemau, yn hytrach nac arno e, byddwn yn dechrau profi heddwch sy’n amddiffyn ein calonnau ac sy’n mynd tu hwnt i bob amgyffred. Edrycha, ar y nodyn atgoffa hwn o’r Ysgrythur:

Mae'r rhai sy'n dy drystio di yn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl. Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser, achos, wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth. Eseia, pennod 26:adnodau 3 i 4 beibl.net

Mae heddwch perffaith yn swnio'n eithaf anhygoel yn tydi? Ond fe ddaw pan fyddwn yn canolbwyntio ein meddyliau ar Iesu ac yn rhoi ein hymddiriedaeth lwyr iddo.

Felly, mae heddwch yn teimlo fel rhywbeth coll neu bell i ffwrdd. Y gwir amdani, Person yw heddwch, a phan fyddwn yn trystio ynddo e a chadw i’n meddyliau arno, down o hyd iddo. Dydy hynny ddim yn golygu na fyddwn fyth yn profi pryder neu ofn, mae e’n golygu ein bod yn gwybod sut i ffeindio heddwch pan fyddwn yn stryglo, oherwydd mae heddwch yn dod yn sgil presenoldeb Duw.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Missing Peace

Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/