Heddwch CollSampl
Heddwch yn y Disgwyl
Ddoe, siaradon ni am ddod o hyd i ffydd yn addewidion Duw, ond, mae hyd yn oed yn fwy anodd pan wyt ti ynghanol disgwyl am Dduw. Dŷn ni i gyd wedi cael tymhorau ble mae’n edrych fel bod Duw yna ar gyfer pawb ond ti. Falle nad yw’r swydd honno gen ti eto. Falle’r hoffet ti fod yn briod, ond mae hynny’n fwy annhebygol nac erioed. Neu falle, dy fod yn gobeithio am blentyn tra ei bod hi’n ymddangos fod yna gyhoeddiadau beichiogrwydd bob dydd.
Beth bynnag rwyt ti’n disgwyl arno, sylweddola nad yw Duw wedi dy anghofio. Mae e gyda thi yn y disgwyl. A dweud y gwir, mae’r Adfent a’r Nadolig yn seiliedig ar ddisgwyl - disgwyl am Dywysog Tangnefedd i ddod i’r byd ac achub dynolryw o bechod.
Fedri di ddychmygu sut deimlad oedd i’r disgwyl hwnnw? Aeth tua 750 blwyddyn heibio rhwng sgwennu’r broffwydoliaeth am Iesu yn Eseia, pennod 9, adnod 6 a genedigaeth Iesu. Am ganrifoedd disgwyliodd pobl, yn ansicr os byddai Duw’n anrhydeddu ei addewidion. Yna, anfonodd ei Fab, Iesu!
A nawr? Does dim rhaid disgwyl am gyflawniad ein heddwch. Ac eto dŷn ni’n dal i aros am ei ail ddyfodiad, gan edrych ymlaen at y diwrnod y bydd ein Duw yn gwneud pob cam yn iawn.
Felly, yn ein byd toredig, dŷn ni’n profi tymhorau o ddisgwyl. Ond dŷn ni’n gwybod nad yw ein tymhorau o ddisgwyl yn dymhorau gwastraffus. Gymaint ag yr hoffem gamu ymlaen i gyflawniad ein gobaith, sylweddolwn ynghanol ein disgwyl, pwy dŷn ni’n ei addoli.
Gofynna i ti dy hun: Ydw i'n poeni mwy am gael y peth rydw i eisiau na dod i adnabod Duw?
Mae’n gwestiwn anodd, ond mae’n un haeddiannol i’w ofyn, oherwydd mae’n datgelu pwy neu beth dŷn ni’n ei addoli.
Nawr, dyma’r peth: Mae’n iawn i fod yn rhwystredig ac i grïo allan ar Dduw pan dwyt ti ddim yn deall ei amseru. Mae’n croesawu hynny. Ond dydy ein tymor o ddisgwyl ddim am y pethau dŷn ni’n disgwyl amdanyn nhw’n unig: th a’n Mae am roi ein gobaith a’n ffydd a’n tryst yn Nuw.
Felly, falle y gelli di ail-fframio dy dymor disgwyl di. Yn lle ffocysu ar y disgwyl, symuda dy feddyliau at gofio - cofio pwy yw Duw, y cwbl y mae eisoes wedi’i wneud, a’r hyn rwyt yn gwybod sydd yn wir am ei gymeriad.
Os wyt ti’n stryglo i ddod o hyd i heddwch dylet wybod hyn:
Mae'r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant yr un sy'n byw i'w blesio. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb, achos mae'r ARGLWYDD yn gafael yn ei law. Salm 37, adnodau 23 i 24 beibl.net
Mae duw’n cyfarwyddo dy stori, ac mae pob manylyn o bwys iddo. Mae e’n dy gynnal pan mae pethau’n anodd. Ac mae e wedi’i blesio gyda thi.
Paid rhuthro drwy’r broses ddisgwyl. Yn lle, tyrd o hyd i heddwch yn y broses drwy gymryd amser i oedi a darganfod beth mae Duw’n ei ddysgu i ti. Felly, myfyria ar y cwestiynau hyn wrth ddisgwyl:
- Sut fedraf i adennill y cyfnod o ddisgwyl hwn er mwyn Dy ogoniant a lles eraill?
Am y Cynllun hwn
Ydy hi’n bosibl profi hedwch pan mae bywyd mor boenus? Yr ateb byr yw: ydy, ond ddim yn dy nerth dy hun. Mewn blwyddyn sydd wedi’n gadael ni wedi llethu, mae cwestiynau gan lawer ohonom. Yn y cynllun Beibl hwn dros 7 diwrnod, mae cyfres negeseuon y Parch Craig Groeschel, byddwn yn darganfod sut i ddod o hyd i’r Heddwch Coll dŷn ni’n gyd yn crefu amdano.
More