Achub BreuddwydionSampl
Mae yna linell yn y weddi tawel sydd gan amlaf yn cael ei gweddïo mewn cyfarfodydd 12 cam ble mae Duw yn cael ei ofyn i'n helpu i dderbyn "caledi fel llwybr tuag at heddwch, gan gymryd, fel wnaeth Iesu, y byd pechadurus fel y mae, ac nid fel y baswn i'n ei gael."
Rwyf wedi gallu uniaethu â'r linell yna wastad oherwydd i gymaint o'm nerth yn ceisio trwsio a rheoli sefyllfaoedd a'r pobl o'm cwmpas, er mwyn ceisio creu bywyd fel o'n i ei eisiau...yn ymdrechu i wireddu fy mreuddwydion. Wrth gwrs, wnaeth e ddim gweithio.
Canlyniad fy ysgariad oedd, colli fy nghartref, andwywyd fy statws credyd, ac roedd yn teimlo fel bod popeth ro'n i wedi'i osod yn ei le ar gyfer fy hun, bob yn un, wedi'u chwalu'n llwyr. Doedd bywyd ddim fel taswn i'n ei gael.
Daeth pwynt ble cefais fy hun yn galaru go iawn a gwaeddais ar Dduw, "Wnaeth pethau ddim troi allan fel o'n i'n disgwyl". Gwrandawodd Duw a siaradodd i'm calon.
Fe wnes i dy achub.
Roedd y datganiad hwn bron yn afresymol o chwerthinllyd. Doedd dim o'n i'n mynd drwyddo'n ymdebygu i gael fy achub.
Harmony, fe wnes i dy achub o dy fersiwn di o'r freuddwyd...fe wna i achub y freuddwyd.
Fe wnaeth yr addewid hwn y byddai Duw yn achub fy mywyd, y byddai'n adfer fy nheulu, roi i mi obaith na fyddai'r tymor ro'n i ynddo fe'n para am byth.
Dw i'n gwybod fod Duw'n achubwr. I ddechrau fe wnaeth e achub fy stori o boen a chael fy ecsbloetio ac mae e'n ei ddefnyddio i helpu eraill trwy "Treasures". Heddiw, rai blynyddoedd ar ôl fy ysgariad, gallaf ddweud ei fod wedi achub fy mreuddwyd o adfer fy nheulu. Ym mis Mawrth 2014 priodais ddyn anhygoel sy'n ail dad rhyfeddol a chariadus i'm merch hyfryd! Yn Ionawr 2018, ganwyd bachgen bach i ni sydd wedi dod â gymaint o lawenydd i mewn i'n cartref.
Dw i wrth fy modd gyda stori Joseff, am ei fod yn esiampl o freuddwydiwr wnaeth drystio Duw, hyd yn oed pan oedd e'n ymddangos fod ei holl freuddwydion wedi chwalu. Cafodd ei fradychu gan deulu, ei adael, caethiwo, carcharu, a'i anghofio. Eto, drwy'r cyfan roedd Duw gyda Joseff. Yn y pen draw fe wnaeth ei ffydd yn Nuw ei alluogi i ddelio a'i sefyllfa ac achub ei deulu a'r Aifft gyfan o newyn. Defnyddiodd Dduw pob manylyn o fywyd a stori Dafydd er daioni! Fe wnaeth Duw achub y freuddwyd.
Ysgwn i os wnaeth Joseff gael ei demtio i roi fyny ar y freuddwyd? Yn lle hynny, arhosodd yn ffyddlon drwy bob cyfnod a sefyllfa, gan adael i Dduw ei ddefnyddio, a parhaodd i freuddwydio. Cafodd cenedl ei hachub oherwydd ei ffyddlondeb.
Dw i ddim yn gwybod beth wyt ti'n mynd drwyddo, dw i ddim yn gwybod pa dreialon neu ymosodiadau mae dy Duw-freuddwydion wedi'u dioddef. Ond dw i'n gwybod hyn - mae Duw'n achubwr. Mae e'n ffyddlon. Wrth i ti ddal ati i freuddwydio, dalia ati i drystio, dalia ati i ddyfalbarhau...
Bydd Duw'n achub y freuddwyd.
Nodyn gan Hsrmony:
Dw i'n gobeithio dy fod wedi mwynhau y defosiwn hwn! Hoffwn i dy annog i ddal ati i fyw'n rhydd, cael breuddwydion mawr, a gwneud daioni! Dw i'n dy annog i edrch ar fy mhlog yn www.HarmonyGrillo.com. I ddysgu mwy am "Treasures dos i www.iamtrasure.com.Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.
More