Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Achub BreuddwydionSampl

Dreams Redeemed

DYDD 2 O 7

Fy Sul y Mamau cyntaf - Diwrnod oedd hwn ro'n i'n dychmygu fyddai'n llawn blodau a geiriau teimladwy'n llifo. Yn lle hynny, cefais fy hun yn gwrando ar gyfaddefiad fyddai'n arwain at ddiwedd fy mhriodas. Wedi fy mrifo ac yn galaru, doeddwn i ddim mewn unrhyw stad i ofalu am fy merch bach am y 24 awr cyntaf. Diolch i'm ffrindiau annwyl, cymron nhw hi am y noson gyntaf.

Pan es i i'w nôl hi y diwrnod wedyn, eisteddais mewn pwll o ddagrau ar garped eu stafell fyw, yn llawn galar, "Ei briod oeddwn i. Fe wnaethon ni addewidion, Roedden ni i fod i fagu plant a chael wyrion ac wyresau â'n gilydd. Roedden ni'n mynd i dorri'r cylch o ysgariad yn ein teuluoedd. Roedden ni i fod i dyfu'n hem gyda ein gilydd."

Gwrandawodd yn llawn tosturi cyn cynnig sylw, "Harmony, mae'n swnio fel dy fod wedi paentio llun o sut roeddet ti eisiau i dy fywyd di fod. Dw i'n gwybod ei bod hi'n galed, ond efallai ei bod hi';n amser ildio'r cynfas a thrystio Duw i baentio un newydd."

Roedd hi'n iawn. Ro'n i, nid yn unig yn hiraethu am y bywyd ro'n i'n ei adnabod, ond yr un ro'n i wedi'i ddychmygu y bydden ni'n ei gael. Galar ar ben galar. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi dychmygu sut olwg fydd ar ein bywydau. Dŷn ni paentio cynfas yn ein pen o sut y bydd ein priodasau, plant, gyrfaoedd, cyfeillgarwch ag eraill, a hyd yn oed llinell amser ar gyfer y pethau hyn.

Mae darlunio'n beth da, ond beth sy'n digwydd pan mae ein breuddwydion a'n disgwyliadau'n cael eu chwalu gan siomedigaethau bywyd? Sut ydyn ni'n ymateb i farwolaeth rywun annwyl i ni, tor-priodas, colli gwaith? Ydyn ni'n gwylltio efo Duw ac ymateb gyda chwerwedd? Ydyn ni'n addunedu i fyth freuddwydio eto, gan ei bod hi'n brifo gormod i obeithio? Neu ydyn ni'n barod i fod yn agored ac ildio cynfas ein bywydau iddo e?

Dw i hefyd wedi paentio cynfas o sut olwg fyddai ar fy mywyd, ond dw i wedi darganfod nad ydy fy nghynfas i'n cyd-fynd gyda'r cynfas mae Duw'n paentio ar fy nghyfer.

Gall ffantasi fod yn eilun. Mae hyn yn digwydd pan fyddwn yn trystio darlun sydd wedi'i lunio yn ein meddyliau gynnon ni. Mae'n gallu bod yn gymaint haws trystio rywbeth dŷn ni'n gallu ei weld, yn hytrach na mewn Duw dŷn ni ddim yn ei weld ac yn methu ei reoli.

Mae perthynas ac agosatrwydd yn gallu bod yn frawychus. Mae iachau'n gallu bod yn frawychus. Mae'r pethau hyn angen tryst a dewrder i gerdded gyda Duw ar hyd llwybrau anghyfarwydd mewn ffyrdd dŷn ni erioed wedi'i ddychmygu. Ond mae Duw, ein Duw ni, eisiau mynd â ni ar y daith hon. Bydd yn gwneud y llefydd garw'n llyfn a dod â golau ble nad oes dim.

Os byddwn yn caniatáu i lifolau Duw dreiddio i'n calonnau gall e ddatgelu gwir ffynhonnell ein poen, fel bod iachâd yn gallu cymryd lle. Dim ond wedyn y byddwn ni'n gallu gweld yn glir yr hyn mae e wedi ein taflu ymlaen i ddianc rhagddo mewn ffantasi. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu ildio cynfas ein bywydau i Dduw da, gan wybod ei fod e'n gallu gwneud tu hwnt i bob dychymyg yr hyn y gallwn ofyn amdano neu ei ddychmygu!

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Dreams Redeemed

Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.

More

Hoffem ddiolch i Harmony Grillo (I Am A Treasure) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://harmonygrillo.com