Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Achub BreuddwydionSampl

Dreams Redeemed

DYDD 6 O 7

"Beth wyt ti ei eisiau?" Dyma ofynnodd fy nghyn-ŵr i mi wrth i'n priodas ddechrau chwalu. Drwy feichiadau o ddagrau atebais, "Dw i eisiau i ti wneud rywbeth nad yw run dyn wedi'i wneud...Dw i eisiau i ti ymladd amdana i."

Yn ddiweddarach, wrth i mi lywio fy ffordd ar hyd llwybr digon unig ar brydiau fel mam sengl, synhwyrais fod duw'n gofyn yr un cwestiwn i mi dro ar ôl tro, "Beth wyt ti ei eisiau?" Am flynyddoedd lawer ro'n i'n methu ei ateb, Ydy e o wirioneddol bwys beth dw i ei eisiau? meddyliais.

Cuddiais fy holl hiraeth a dymuniadau tu ôl i ddatganiad oedd wedi'i ymarfer hyd at syrffed er yn swnion dda, "Dy ewyllys di, nid un fi".

Er fod ildio i ewyllys Duw yn beth da, cymerodd amser maith i mi sylweddoli nad yw Duw eisiau fy ufudd-dod goddefgar. Fy nghalon mae e ei eisiau. Dydy e ddim yn chwilio am gaethweision sy'n ymateb i orchmynion allan o rwymedigaeth ac ewyllys ormesol, ond meibion a merched sy'n ymateb iddo allan o agosatrwydd a pherthynas.

Dw i wedi clywed, "Mae hiraethu'n beth da i ti. Mae e'n adlais o'r gwyrthiau sydd eto'i ddod."

Mae ein breuddwydion yn bwysig i Dduw. Mae'r hiraeth yn ein calonnau o bwys iddo. Os byddwn yn gadael iddo, bydd yn defnyddio tymhorau o ddisgwyl i adeiladu ein ffydd a'n tynnu'n agosach ato e wrth i ni rannu'r hyn dŷn ni'n hiraethu amdano. Dydy rhannu ein breuddwydion â Duw yn sicrwydd o gael popeth dŷn ni ei eisiau. Nid dewin personol yw e! Ond mae'r union broses o rannu breuddwydion yn ein tynnu'n agosach ato e.

A fedri di ddychmygu cael ffrind neu gymar wnaeth fyth ddweud wrthot ti am eu breuddwydion a'u dymuniadau? Dw i'n siŵr y bydden ni'n teimlo diffyg cyswllt a byddai'n perthynas â nhw'n teimlo'n arwynebol. Mae'r arferiad diniwed o rannu ein dymuniadau'n dyfnhau ein cymhwysedd ar gyfer agosatrwydd at Dduw ac eraill.

O'm rhan fy hun, ar ôl blynyddoedd o wadu'r freuddwyd o fod eisiau eistedd wrth fwrdd bwyd gyda theulu fy hun, dwedais wrth Duw, o'r diwedd, beth o'n i ei eisiau. Ro'n i eiisau bod yn briod eto. Ro'n i eisiau rywun fel gallwn rannu breuddwydion a gweledigaeth, cyfrifoldebau a sialensiau, chwerthin a dagrau gyda nhw

Parhaodd y tymor o ddisgwyl. Yn ystod y cyfnod parhaodd Duw gyda'r gwaith o iachau dwfn o'm mewn. Defnyddiodd y disgwyl i nysgu i am berthynas ddwyochrog, a sut olwg sydd ar agosatrwydd emosiynol go iawn gyda phobl eraill. Tyfodd fy ffydd, hefyd, i ddangos bod Duw, yn ei hanfod, yn dda. Bod modd trystio yn ei gymeriad. Mae ei gynlluniau'n dda. Dysgodd i mi nad yw sefyllfaoedd fy mywyd yn newid y ffeithiau hyn. Dysgodd fi i bwyso ar y gwirioneddau hyn, hyd yn oes os nad o'n i'n gweld tystiolaeth ohonyn nhw.

Beth wyt tiei eisiau?

Drwy'r holl ysgrythur mae Iesu'n gofyn amrywiadau o'r cwestiwn hyn i'r bobol wnaeth e eu cyfarfod. A dw i'n credu ei fod yn gofyn i ti hefyd. Dw i'n dy annog i archwilio'r cwestiwn a'i rannu gydag e. Mae'n bosib ei drystio gyda'r hyn mae dy galon yn hiraethu amdano.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Dreams Redeemed

Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.

More

Hoffem ddiolch i Harmony Grillo (I Am A Treasure) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://harmonygrillo.com