Achub BreuddwydionSampl
Mae siomedigaeth a phoen yn gallu tanio temtasiwn. Mae nhw'n ein gwanhau mewn ardaloedd o wendid. Pa una i os yw'n ynysu, gorfwyta, cael rhyw ysbeidiol, neu yfed gormod o win, mae ein hawydd i leddfu neu osgoi poen yn ein gyrru at gyfaddawd. Dŷn ni'n dweud wrthon ni ein hunain ein bod yn haeddu teimlo'n well.
Pan dŷn ni'n brifo dŷn ni'n fwy tebygol i aberthu'r freuddwyd am rywbeth sydd dros dro. Mae'r cysur sy'n dod o'n gwendidau, ar y gorau'n ddiystyr a diflanedig, ac ar eu gwaetha'n ddinistriol.
Mae yna olygfa yn yr opera enwog La Boehme ble mae dau ddyn yn dioddef drwy aeaf dychrynllyd ym Mharis. Mae un ohonyn nhw wedi treulio oriau ar ddarn o waith. Mae e mor oer fel ei fod bron yn methu canolbwyntio ar ei sgwennu ddim mwy.
Am nad oes ganddo arian i brynu glo, na phren ar gyfer y tân, mae e'n taflu'r llawysgrif, mewn ennyd o rwystredigaeth lwyr, i ganol y fflamau. Mewn eiliadau mae'r swp o bapur yn llosgi'n ludw.
Fe wnaeth yr awdur hwn aberthu ei freuddwyd, popeth roedd wedi gweithio ar ei gyfer, am ennyd byr o gysur. Rhoddodd y ffidil yn y to.
Dŷn ni'n gweld yr un patrwm yn stori Esau yn Genesis. Yn hollol lluddedig a llwglyd, mae e'n dychwelyd adre i arogl cawl corbys poeth. Ac yntau ar ei gythlwng mae Esau'n ildio ei enedigaeth-fraint, y cwbl o'i freintiau, awdurdod ac etifeddiad ddaeth iddo fel y cyntaf-anedig, a hynny am ychydig o gawl. Fe wnaeth e aberthu ei ddyfodol am fodlonrwydd byrhoedlog o stumog lawn.
Gwranda, dw i'n deall yn iawn.
Dw i'n cael fy nhemtio i anwybyddu teimladau pan dw i'n galaru. (yn aml, dw i'n rhoi'r ffidil yn y to!). Ar ôl fy ysgariad, fe wnaeth unigrwydd fy nhemtio i ildio fy safonau a chyfaddawdu ar ganlyn. diolch byth, wnes i ddim ildio i'r demtasiwn, ond yn sicr, roedd e yna<>
Pan o'n i'n colli fy nghartref, ac ar fin mynd yn fethdalwr, cynigodd cymydog swydd chwe ffigwr i mi i weithio mewn marchnata i gwmni fferyllol. Cefais fy nhemtio i gymryd y swydd. Ond byddai gwneud hynny wedi golygu canolbwyntio llai ar waith "Treasures". Doedd y cysur dros dro o sefydlogrwydd ariannol ddim yn werth ildio'r pwrpas roedd Duw wedi fy ngalw iddo.
Weithiau mae'r Duw-freuddwyd yn galw am aberth. Fel mae hi'n digwydd mae ein cymeriad yn cyfri mwy i Dduw na lefel ein cysur.
Gallwn adael i bethau anodd adeiladu ein cymeriad neu ei dorri. Gallwn aberthu'r freuddwyd am rywbeth sydd dros dro, neu gallwn ddyfalbarhau a chaniatáu i ddyfalbarhad gryfhau ein cymeriad ac adeiladu aeddfedrwydd ynom ni.
Paid ildio'r freuddwyd am rywbeth sydd dros dro. Paid gadael i'r boen neu siomedigaeth arwain at fforffedu dy freuddwydion am sefydlogrwydd sydyn a phleserau byrfyfyr. Paid ildio. Mae gormod i'w golli.
Mae yna ryddid tu draw i dy ffyddlondeb. i ti, yn bersonol, ac i'r holl bobol hynny fydd yn cael eu dylanwadu wrth i ti weithredu'n llawn ar dy bwrpas!
Am y Cynllun hwn
Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.
More