Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Achub BreuddwydionSampl

Dreams Redeemed

DYDD 5 O 7

Un bore Sadwrn braf ro'n i'n edrych ar fy merch annwyl dair oed wrth iddi gysgu'n dawel. Ro'n i wedi bod yn disgwyl yn eiddgar iddi ddeffro, achos ro'n i wedi gobeithio rhoi diwrnod arbennig iddi gyda'i hoff frecwast, mynd â hi i weld ffilm a phrynu hufen iâ iddi.

Gwthiais y gwallt oddi ar ei thalcen yn dyner a sibrwd yn ei chlust, "Deffra fy nghariad gwyn i."

Yn sydyn, chwifiodd ei breichiau a gwylltio'n gacwn, "Naaaaa! Dw i ddim eisiau deffro," sgrechiodd. Trodd ei wyneb bach angylaidd yn biws.

Suddodd fy nghalon. Heblaw fy mod wedi drysu gan ei ffrwydrad, ro'n i'n hynod siomedig nad oedden ni'n mynd i allu cael y diwrnod ro'n i wedi'i freuddwydio ar ein cyfer.

Roedd fy merch eisiau aros yn ei gwely. Roedd hi'n gyfforddus yn ei byd bach breuddwydiol. Collodd rywbeth arbennig oherwydd ei phrotestio gwyllt. Doedd dim unrhyw ffordd ro'n i'n mynd i fynd â hi allan am ddiwrnod arbennig a gwobrwyo ei strancio. Petasai hi'n gwybod beth oedd gen i ar ei chyfer, a fydde hi wedi bihafio'n wahanol? Petasai hi wedi trystio beth oedd gen i ar ei chyfer, petasai hi wedi fy nhrystio i, a fydde hi wedi ymateb yn wahanol?

Tybed od ydw i wedi colli allan ar beth oedd gan Dduw ar fy nghyfer, am fy mod i'n rhy barod i fod yn gyfforddus gyda'r hyn oedd gen i - wedi ffocysu gormod ar yr hyn ro'n i ei eisiau.

rhy barod i fod yn gyfforddus gyda'r hyn oedd geni - wedi ffocysu gormod ar yr hyn ro'n i ei eisiau.

Weithiau, dŷn ni eisiau beth dŷn ni ei eisiau ac yn meddwl mai dyna sydd ei angen arnom. Ond os dŷn ni'n credu fod Duw yn dda, a bod ei gynllun yn un da, fe wnawn ni wrando. Fe wnawn ni ddilyn - hyd yn oed pan mae e'n chwalu ein cynlluniau ni ein hunain ac yn ein symud allan o le cyfforddus. Hyd yn oed pan mae hi'n amser gollwng gafael ar berthnasoedd, arferion, neu gynllun, neu boen sydd wedi bod yn ein dal yn ôl.

Mae trystio'n rhan o sylfeini ffydd - mae bod â ffydd yn Nuw yn golygu trystio ei gynllun, hyd yn oed pan dŷn ni ddim yn ei ddeall e. Mae e hefyd yn sylfaen y Duw freuddwyd ar ein cyfer. Yn y cyfnodau hynny pan oedd pethau fel petai nhw'n chwalu'n deilchion, rhoddodd ffydd yn Nuw le cadarn imi sefyll.

"Deffra cariad. Agora dy lygaid. Mae gen i rywbeth hyfryd wedi'i drefnu ar dy gyfer. I brofi'r hyn sydd gen i ar dy gyfer fedri ddim aros ble rwyt ti. Mae hi'n amser symud 'mlaen fy nghariad.

Dw i'n credu fod Duw yn dy wahodd di a fi i gynllun sydd mor anhygoel fel na allwn fyth ei amgyffred. Un fydd yn cynnwys adferiad ac achubiaeth o'r cwbl sydd wedi'i ddwyn a'i golli. Y cwestiwn ydy, a wnawn ni ei drystio ddigon i'w ddilyn?

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Dreams Redeemed

Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.

More

Hoffem ddiolch i Harmony Grillo (I Am A Treasure) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://harmonygrillo.com