Achub BreuddwydionSampl
Feddyliais erioed y byddwn i'n byw i weld fy un a'r hugain oed. Ar ôl hanes hir o gamdriniaeth rhywiol, cael fy nhreisio, a byw mewn amgylchedd anhrefnus, wnaeth mam fy ngadael mewn cymdogaeth llawn gangiau pan o'n i'n dair a'r ddeg oed, gyda fy mrawd bach 8 oed i ofalu amdanon ni'n hunain am dri mis. Yn ystod yr haf dechreuais berthynas gyda bachgen hŷn na mi wnaeth gynnig bwyd ac i'n hamddiffyn. Tyfodd y berthynas yn un drais ac ecsbloetio, wnaeth yn y pendraw fy arwain i weithio'n y diwydiant rhyw. Yn ei hanfod, fy nghariad oedd fy pimp ac roedd fy mywyd yn mywyd yn mynd o ddrwg i waeth.
Cyfarfod Iesu.
Ynddo e dois o hyd i ras, iachâd, a llwybr i ryddid. Dechreuais freuddwydio eto. Breuddwydiais am ddiwrnod y byddai gen i gartref clud, gyda theganau plant yn blith-draphlith dros y lawnt. Breuddwydiais am deulu cyflawn ble roedd cyfenw pawb yr un fath. Roedd fy mreuddwyd yn cynrychioli sefydlogrwydd-rywbeth nad o'n i heb ei brofi fawr ddim drwy gydol fy mhlentyndod.
Fy nghamgymeriad oedd credu y buaswn i, o fynd i capel bob dydd Sul, darllen y llyfrau cywir, a gwneud y pethau iawn, y byddai fy holl freuddwydion yn dod yn wir a byddai gen i imiwnedd drwy Iesu i helyntion bywyd.
Ymhen ychydig flynyddoedd roedd popeth yn mynd yn iawn gyda fy nghynlluniau i. ro'n i'n briod gyda babi hyfryd, a chartref gyda iard gefn. Roedd bywyd mor dda ro'n i'n genfigennus o fy hun!
Pan sylweddolais fod fy ngŵr wedi bod yn cael perthynas tu allan i briodas, ac yn y pendraw ddim am ymladd i adfer ein priodas, teimlais fod popeth ro'n i wedi'i obeithio amdano wedi'i sathru dan draed. Roedd y bywyd ro'n i wedi'i freuddwydio amdano yn chwalu'n chwilfriw.
Yn ei gerdd, "Harlem", mae Langston Hughes yn pennu cwestiwn. "Beth sy'n digwydd i freuddwyd sydd wedi oedi?"
"Ydy e'n sychu'n grimp
fel resinen yn yr haul?
Neu casglu fel briw-
ac yna redeg?
Dw i'n credu bod beth sy'n digwydd i'n breuddwydion sydd wedi'u hoedi, allan o gyrraedd, neu wedi'u chwalu, yn dibynnu ar yr un sy'n breuddwydio. Bydd sut dŷn ni'n ymateb yn penderfynu os byddwn yn agosáu, neu pellhau oddi wrth y Duw-freuddwyd ar gyfer ein bywydau.
Yn nghysgod cyfaddefiad fy ngŵr, roedd gen i benderfyniad i'w wneud...
Ble oeddwn i'n mynd i osod fy ngobaith? O'n i'n mynd i osod fy ngobaith yn y freuddwyd oedd gen i ar gyfer fy mywyd? Neu o'n i'n mynd i osod fy ngobaith yn Nuw?
Yn ôl y Beibl mae gobaith sydd wedi'i oedi'n gwneud y galon yn sâl, ond mae gobaith yn Iesu'n angor i'n henaid. Ro'n i'n methu newid fy sefyllfaoedd, er cymaint o'n i eisiau, ond mi fedrwn ibenderfynu sut o'n i'n mynd i ymateb iddyn nhw.
Dw i'n dy wahodd i fyfyrio ar y cwestiynau canlynol: Ble mae dy obaith heddiw? Ydy dy obaith yn dy freuddwyd ar gyfer dy fywyd? Neu ydy dy obaith yn y Rhoddwr Breuddwydion?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.
More