Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Achub BreuddwydionSampl

Dreams Redeemed

DYDD 3 O 7

Dydy ffydd ddim yn ein imiwneiddio rhag treialon bywyd. Mae yna gyfnodau pan mae swyddi'n cael eu colli, calonnau'n cael eu torri, neu rhai câr yn marw cyn eu hamser.

Mae yna gyfnodau eraill pan dŷn ni'n cael ein gadael yn disgwyl (a disgwyl, a disgwyl) i'n breuddwydion ddwyn ffrwyth. Y freuddwyd am blentyn, cymar, neu adfer perthynas. I gâr wella o salwch neu ddibyniaeth. Seibiant o'n gwaith. Mae ein calonnau dolurus yn hiraethu am yr hyn sydd, eto, ddim gynnon ni. Weithiau, dŷn ni'n mewn poen am gymaint o amser fel bod ein gobaith yn pylu a fe allen ni stopio breuddwydio, fel nad yw'r poen yn brifo fel o'r blaen.

Mae ein breuddwydion o bwys gan Dduw. I ddweud y gwir, mae e'n gosod "Duw-freuddwydion" yn ein calonnau. Ond os dw i'n dymuno'r freuddwyd mwy na Duw, Rhoddwr Breuddwydion, dw i'n troi'r freuddwyd yn eilun.

O'r amser yr oeddwn yn ddyflwydd oed, roedd gen i eisiau bod yn actores enwog. Fel plentyn, treuliais oriau o flaen y drych yn datblygu cymeriadau. Fe wnaeth camdriniaeth ac ecsbloetio chwalu fy holl freuddwydion, gan gynnwys yr un yna. Pan ddechreuais ddilyn Iesu, penderfynais ddilyn actio eto.

Ro'n i'n trefnu gwaith ac yn cael amser da'n adeiladu gyrfa, ond buan y daeth hi'n amlwg fod gan Dduw freuddwyd gwahanol ar gyfer fy mywyd i'r un roeddwn i wedi bod yn ei hymlid.

Os dw i'n onest roedd fy nymuniad i fod yn actores, yn rhannol er nwyn teimlo synnwyr o arwyddocâd. Roedd Duw eisiau i mi ddarganfod fy ngwerth ynddo e, a nid y gydnabyddiaeth a sylw y gallwn ei gael fel actores. Dechreuais sylweddoli, hefyd, ei fod eisiau defnyddio'r boen o fy ngorffennol i ddod â gobaith a rhyddid i eraill.

Penderfynais i ddilyn y Duw-freuddwydion ar gyfer fy mywyd, ac yn 2003 sefydlais "Treasures", grŵp cymorth i ddioddefwyr ecsbloetio a masnachu rhywiol. Pob dydd, dw i'n cael cyfle i weld newid ar fywydau o ganlyniad i fy mhenderfyniad i ddilyn Duw-freuddwydion ar gyfer fy mywyd! Pe bawn i wedi dal gafael yn fy mreuddwyd i, i fod yn actores, neu'n waeth na hynny, gadael iddo fod yn eilun yn fy mywyd, byddwn i wedi methu'r freuddwyd oedd gan Dduw ar fy nghyfer!

Mae Duw'n gofalu amdano, ac mae ein breuddwydion o bwys iddo. Mae o bwys ganddo cymaint fel ei fod yn fodlon ein harwain i ffwrdd oddi wrth beth dŷn ni'n ei feddwl dŷn ni eisiau, fel ei fod yn gallu ein harwain at yr hyn sydd ganddo e ar ein cyfer.

Mae yna Dduw-freuddwyd ar gyfer dy fywyd. Efallai ei fod yn rywbeth rwyt ti'n cerdded i'w gyfeiriad yn barod, neu gall fod yn rywbeth hollol annisgwyl. Dw i'n credu, wrth i ti fod yn agored gyda'th gynlluniau a breuddwydion, a'i drystio e gyda'r broses, bydd yn dy arwain i lawnder yr hyn sydd ganddo ar dy gyfer.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Dreams Redeemed

Beth ydyn ni'n ei wneud pan mae ein breuddwydion yn edrych yn bell i ffwrdd neu wedi'u chwalu? Ar ôl goresgyn camdriniaeth a thrawma, heb sôn am dor-calon ysgariad, dw i wedi wynebu y cwestiwn hwn dro r ôl tro. Pa un ai rwyt yn profi'r difrod o drasiedi neu golled, neu rwystredigaeth tymor hir o ddisgwyl, mae'r freuddwyd nefol yn dal yn fyw. Fy ffrind, mae hi'n amser breuddwydio eto.

More

Hoffem ddiolch i Harmony Grillo (I Am A Treasure) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://harmonygrillo.com