Logo YouVersion
Eicon Chwilio

JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

DYDD 9 O 9

“Marwolaeth Angau”

Roedd Iesu wedi dweud wrth ei ddisgyblion, “ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” Dwedodd hyn yn Marc 8, Marc 9. Ac eto Marc 10.

O ystyried yr ailadrodd, mae rhywbeth rhyfeddol ar ddigwydd. Ddeuddydd wedi marwolaeth Iesu, does dim disgyblion gwrywaidd i’w gweld yn unman; ond mae disgyblion benywaidd yn dod i’r golwg, ond maen nhw’n dod gyda sbeisys a phersawrau a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i eneinio corff marw. Doedd neb yn disgwyl atgyfodiad. Os mai ti oedd Marc, awdur yr efengyl, yn trio sgwennu darn credadwy o ffuglen, ac mae Iesu wedi dweud hyn dro ar ôl tro i’w ddisgyblion y byddai’n atgyfodi deuddydd wedyn, oni fyddai o leiaf un disgybl yn meddwl hyn drwodd, ac yn dweud hyn wrth y lleill, “Hei mae deuddydd wedi pasio, beth am i ni fynd i gael golwg ar fedd Iesu. Wnaiff e ddim drwg? Byddai hynny’n ddigon rhesymol. Ond ddwedodd neb ddim byd tebyg i hynny. I ddweud y gwir doedden nhw ddim yn disgwyl atgyfodiad o gwbl. Wnaeth e ddim hyd yn oed croesi eu meddyliau nhw. Roedd rhaid i’r angel o flaen y bedd atgoffa’r merched: “Cewch ei weld... yn union fel roedd wedi dweud.” Pe bai Marc wedi creu’r stori, nid fel hyn fyddai e wedi’i sgwennu.

A dyma’r pwynt: Roedd yr atgyfodiad yn anghredadwy i’r disgyblion cyntaf, yn amhosibl iddyn nhw i gredu, fel mae i gymaint ohonom ni heddiw. Yn fwy na hynny, byddai eu rhesymau wedi bod yn wahanol i rhai ni. Doedd y Groegwyr ddim yn credu mewn atgyfodiad; rhyddhau’r enaid o’r corff oedd bywyd ar ôl marwolaeth. Iddyn nhw fyddai atgyfodiad fyth yn rhan o fywyd ar ôl marwolaeth. O ran yr Iddewon, roedd rhai ohonyn nhw'n credu mewn atgyfodiad cyffredinol yn y dyfodol pan fyddai'r byd i gyd yn cael ei adnewyddu, ond doedd ganddyn nhw ddim cysyniad o unigolyn yn codi o farw’n fyw. Nid oedd pobl o gyfnod Iesu yn dueddol o gredu mewn atgyfodiad mwy nag ydym ni.

Ydy’n anodd iti gredu fod Iesu wedi atgyfodi o farw’n fyw? Sut mae atgyfodiad Iesu’n rhoi gobaith iti?

Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller

Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.
Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.

More

Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide