JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl
“Y Brenin Croeshoeliedig”
Pan ofynnodd yr archoffeiriad iddo, “Ai ti ydy'r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?” atebodd Iesu, “Ie, fi ydy e,”
Wrth ymateb mae Iesu’n dweud, “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” Mae'n ddatganiad syfrdanol. Mae'n dangos ei hawl i dduwdod.
O’r holl bethau gallai Iesu fod wedi’u dweud - ac mae gymaint o destunau, themâu, delweddau, dameg a dyfyniad o’r Ysgrythurau Hebreig y gallai fod wedi’u defnyddio i ddweud pwy oedd e - mae’n dweud yn benodol mai e yw’r barnwr. Drwy ei ddewis o ddyfyniad mae Iesu’n ein gorfodi i weld y paradocs. Mae yna wrthdroad anferth wedi digwydd. Fe yw barnwr y byd cyfan, sy’n cael ei feirniadu gan y byd. Dylai e fod yn sedd y barnwr, a dylen ni fod o flaen ei n gwell mewn cadwyni. Mae popeth ben ei waered.
Ac unwaith mae Iesu’n cydnabod mai e yw’r barnwr a’i fod yn ddwyfol, mae’r ymateb yn ffrwydrol. Mae Mr yn sgwennu:
““Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi'n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda'r Ref Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau'r awyr.” Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma'r archoffeiriad yn rhwygo'i ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai. “Dych chi i gyd wedi'i glywed yn cablu. Beth ydy'ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth. Yna dyma rai ohonyn nhw'n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a'i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma'r swyddogion diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a'i guro.
(Marc 14:62-65)
Mae’r archoffeiriad yn rhwygo’i ddillad, arwydd o’r dicter mwyaf posibl, arswyd a galar. Ac yna mae’r achos cyfan yn dirywio. I ddweud y cyfan roedd bellach yn derfysg. Dechreuodd y rheithwyr a’r barnwyr boeri ato, a’i guro ynghanol yr achos, aethon nhw’n hollol wallgof. Ar amrantiad mae’n cael ei gyhuddo o gabledd ac yn haeddu marwolaeth.
E r na elli di a minnau boeri yn wyneb Iesu yn llythrennol, fe allwn ni ei watwar a'i wrthod o hyd. Ym mha ffyrdd dŷn ni’n dueddol o wrthod Iesu fel Duw?
Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller
Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.
More
Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide