Logo YouVersion
Eicon Chwilio

JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

DYDD 7 O 9

“Cymundeb a Chymuned”

Cofia beth ddwedodd Iesu pan gododd y cwpan:

Yna cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto a'i basio iddyn nhw, a dyma nhw i gyd yn yfed ohono. “Dyma fy ngwaed,” meddai, “sy'n selio ymrwymiad Duw i'w bobl. Mae'n cael ei dywallt ar ran llawer o bobl. 25 Credwch chi fi, fydda i ddim yn yfed gwin eto, nes daw'r diwrnod hwnnw pan fydda i'n yfed o'r newydd pan fydd Duw yn teyrnasu.”
(Marc 14: 22-24)

Mae geiriau Iesu yn golygu, o ganlyniad i’w aberth droson ni, fod yna bellach gyfamod newydd rhwng Duw a ninnau. A sail y berthynas hon yw gwaed Iesu ei hun: “fy ngwaed sy’n selio ymrwymiad Duw.” Pan mae’n cyhoeddi na fydd yn bwyta, nac yfed eto nes bydd yn win cwrdd yn Nheyrnas Duw, mae Iesu’n addo ei fi ni yn ddiod wedi’i ymrwymo’n ddiamod, i ni: ““Dw i'n mynd i ddod â chi i freichiau'r Tad. Dw i'n mynd i ddod â chi i wledd y Brenin.” Mae Iesu’n cymharu Teyrnas Dduw’n aml i eistedd mewn gwledd. Yn Mathew 8, mae Iesu’n dweud, “Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd llawer o bobl yn dod o bob rhan o'r byd ac yn eistedd i lawr i wledda...” Mae Iesu’n addo y byddwn ni yng ngwledd y deyrnas gydag e.

Gyda’r gweithredoedd a geiriau syml hyn o rannu’r bara a gwin, “Dyma fy nghorff i... Dyma fy ngwaed i,” Mae Iesu’n dweud bod yr holl waredigaethau cynharach, yr aberthau cynharach, yr ŵyn adeg y Pasg, yn pwyntio ato’i hun. Yn union fel y gwelwyd y Pasg cyntaf y noson cyn i Dduw achub yr Israeliaid rhag caethwasiaeth trwy waed yr ŵyn, cafodd y Pasg hwn ei fwyta, y noson cyn i Dduw achub y byd rhag pechod a marwolaeth trwy waed Iesu.

Beth yw rhai pethau sydd angen digwydd yn dy galon a'th feddwl fel y gelli di gymryd yn ddiffuant yr hyn y mae Iesu'n ei gynnig?

Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller

Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur

Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.

More

Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide