Logo YouVersion
Eicon Chwilio

JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

DYDD 6 O 9

“Gwneud yr Amhosib yn Bosibl”

Wrth ddod i gwrdd ag Iesu yna mae’n dweud fod rhywbeth gwirioneddol o’i le gyda phob un ohonom ni - ac mae gan arian bŵer arbennig i’n clymu iddo. I ddweud y gwir, mae iddo gymaint o bŵer i dwyllo bob un ohonom o’n cyflwr ysbrydol go iawn fel bod angen ymyriad grasol, gwyrthiol gan Dduw i'w weld. Mae’n amhosibl heb Dduw, heb gael gwyrth. Heb ras.

Ystyria fel gwnaeth Iesu gynghori’r dyn ifanc yma. Yn bendant, roedd y dyn yma angen cael ei gynghori, er yn allanol roedd yn edrych yn hollol dawel ei fyd. Roedd e’n gyfoethog, roedd yn ifanc, a mwy na thebyg roedd e’n olygus - mae’n anodd bod yn gyfoethog ac ifanc ac i beidio bod yn olygus. Ond doedd e ddim yn hapus o bell ffordd. Os byddai popeth wedi bod yn iawn, fyddai o fyth wedi troi at Iesu a gofyn, “Athro, beth sydd raid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?”

Byddai unrhyw Iddew selog yn gwybod yr ateb i’r cwestiwn. Roedd athrawon y Gyfraith wastad yn gofyn y cwestiwn hwn yn eu hysgrifau a gwersi. Ac roedd eu hateb yr un bob tro, doedd dim meddylfryd gwahanol i hyn. Yr ateb oedd, “Ufuddha i orchmynion Duw a chadw draw o bob pechod.” Byddai’r dyn ifanc wedi gwybod hyn. Felly, pam oed e’n gofyn i Iesu?

Mae geiriau craff Iesu, “Mae yna un peth arall ar ôl” yn caniatáu i ni ddal hanfod strygl y dyn ifanc. Roedd y dyn yn dweud, “Ti’n gwybod beth, dw i wedi gwneud popeth yn iawn: dw i wedi bod yn llwyddiannus yn economaidd, yn llwyddiannus yn gymdeithasol, yn llwyddiannus yn foesol, yn llwyddiannus yn grefyddol. Dw i wedi clywed dy fod yn athro da, a dw i’n meddwl tybed a oes rhywbeth dw i wedi'i golli, rhywbeth dw i ddim yn ei weld. Dw i’n synhwyro bod rhywbeth ar goll.”

Wrth gwrs fod rhywbeth ar goll. Oherwydd bydd unrhyw un sy'n dibynnu ar yr hyn maen nhw'n ei wneud i gael bywyd tragwyddol yn darganfod, er gwaethaf popeth maen nhw wedi'i gyflawni, bod yna wagedd, ansicrwydd, amheuaeth. Mae rhywbeth yn sicr o fod ar goll. Sut gall unrhyw un wybod a ydyn nhw'n ddigon da?

Sut elli di ddilyn gyrfa lwyddiannus a pheidio ag ildio i'r trap y mae cyfoeth yn ei greu? Beth yw rhai o’r ffyrdd y mae’r efengyl wedi newid - neu y gallai newid - dy agwedd at arian?

Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller
Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.

More

Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide