Logo YouVersion
Eicon Chwilio

JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

DYDD 3 O 9

“Mwy nag yr oeddet yn ei ddisgwyl”

Weithiau pan dw i’n mynd at Iesu mae e’n gadael i bethau ddigwydd dw i ddim yn eu deall. Dydy e ddim yn gwneud pethau yn ôl fy nghynlluniau i, neu mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr imi. Ond os mai Iesu yw Duw, mae’n rhaid ei fod yn ddigon mawr i gael rhesymau dros adael iti fynd drwy brofiadau nad wyt ti’n eu deall. Mae ei bŵer yn ddiderfyn, ac felly hefyd ei ddoethineb a chariad. Mae natur yn ddifater i ti, ond mae Iesu wedi'i lenwi â chariad digyffwrdd tuag atat ti. Pe bai’r disgyblion wedi gwybod yn iawn fod Iesu’n eu caru, petaen nhw wedi deall yn iawn ei fod yn bwerus ac yn gariadus, fydden nhw ddim wedi bod yn ofnus. Roedd eu theori, pe bai Iesu’n eu caru nhw, na fyddai’n gadael i bethau drwg ddigwydd iddyn nhw, yn anghywir. Mae'n gallu caru rhywun a dal i adael i bethau drwg ddigwydd iddyn nhw, oherwydd ei fod yn Dduw - oherwydd mae'n gwybod yn well na nhw.

Os oes gen ti i Dduw sy'n ddigon mawr ac yn ddigon pwerus i fod wedi gwylltio ag e oherwydd nad yw'n atal dy ddioddefaint, mae gen ti hefyd Dduw sy'n ddigon mawr a phwerus i gael rhesymau na elli di eu deall. Fedri di mo’i chael hi'r ddwy ffordd. Mewn geiriau hyfryd dwedodd fy athrawes, Elisabeth Elliot, “Duw yw Duw, a chan ei fod yn Dduw, mae hawl ganddo dderbyn fy mawl a fy ngwasanaeth. Dim ond yn ei ewyllys y gallaf ddod o hyd i orffwys, ac mae’r ewyllys hwnnw, o raid, yn dragwyddol, difesur, ac yn anhraethol du hwnt i'm syniadau mwyaf o'r hyn y mae'n ei wneud.” Os wyt ar drugaredd y storm, does gen ti ddim rheolaeth ar ei phŵer a dydy hi ddim yn dy garu. Yr unig le ble rwyt ti’n ddiogel yw yn ewyllys Duw. Ond am mai Duw yw e, ac nid ti, mae ewyllys Duw, o raid, yn dragwyddol, difesur, ac yn anhraethol du hwnt i'm syniadau mwyaf o'r hyn y mae'n ei wneud. Ydy e’n saff? Wrth gwrs dydy e ddim yn saff. Pwy ddwedodd ddim am fod yn saff? Ond mae e’n dda, Fe yw’r Brenin.”

Sut gallwn ni gael heddwch yng Nghrist mewn amgylchiadau sy’n dueddol o greu pryder a/neu anobaith? Ble yn dy fywyd wyt ti'n aros i Iesu ddarparu help?

Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller

Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.

More

Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide