Logo YouVersion
Eicon Chwilio

JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

DYDD 2 O 9

“Iachau Dyfnach”

Mae Iesu’n gwybod rhywbeth nad ydy dyn yn ei wybod - fod ganddo broblem llawer mwy na’i gyflwr corfforol. Mae Iesu’n dweud wrtho, “Dw i’n deall dy broblemau di. Dw i wedi gweld dy ddioddef. Dw i’n mynd i ddod at hynny. Ond dealla hyn, mai’r brif broblem ym mywyd person ydy, nid ei ddioddefaint, ond ei bechod.”
Os wyt ti’n meddwl fod ymateb Iesu’n sarhaus, dylet o leiaf ystyried hyn: Os yw rhywun yn dweud wrthot ti, “Y brif broblem ydy, nid beth sydd wedi digwydd i ti, nid beth mae pobl wedi’i wneud i ti, dy brif broblem yw sut wnest ti ymateb i hynny.” - y n eironig, mae hynny'n rymusgar. Pam? Oherwydd fedri ddim gwneud fawr ddim byd am beth ddigwyddodd i ti neu am beth mae pobl yn ei wneud - ond fe elli wneud rywbeth amdanat ti dy hun. Pan mae’r Beibl yn siarad am bechod, dydy e ddim yn sôn am y pethau drwg dŷn ni’n ei wneud yn unig. Nid dim ond dweud celwydd, chwennych, neu beth bynnag arall - anwybyddu Duw sydd yn y byd mae e wedi’i greu sydd yma; gwrthryfela yn ei erbyn trwy fyw heb gyfeirio ato. Dweud “ Fe wna i benderfynu sut dw i’n byw fy mywyd” yw e. Ac mae Iesu’n dweud, dyna yw ein prif broblem. Fwy neu lai’n dweud,
Mae Iesu'n wynebu'r parlysol gyda'i brif broblem trwy ei yrru'n ddyfnach. Mae Iesu’n dweud, “Trwy ddod ataf a gofyn am i'th gorff yn unig gael ei wella, nid wyt yn mynd yn ddigon dwfn. Rwyt wedi diystyru dyfnder dy hiraeth, a hiraeth dy galon.” Mae pawb sydd wedi’i barlysu’n naturiol, yn llawn angerdd, eisiau cerdded. Ond does bosib fod y dyn hwn wedi gosod ei holl obaith ar y posibilrwydd o gerdded eto. Yn ei galon mae’n dweud, Pe bawn i'n gallu cerdded eto, yna byddwn i'n werth chweil. Fyddwn i byth yn anhapus, fyddwn i byth yn cwyno. Pe bawn i’n gallu cerdded yn unig, yna byddai popeth yn iawn.” Ac mae Iesu yn dweud, “Fy mab, rwyt ti'n camgymryd.” Falle bod hynny’n swnio’n llym, ond mae’n hollol wir. Dwedodd Iesu, “Pan fyddaf yn gwella dy gorff, os dyna'r cyfan a wnaf, byddi’n teimlo na fyddi fyth yn anhapus eto. Ond arhosa ddau fis, pedwar mis - ni fydd y gorfoledd yn para. Mae gwreiddiau anniddigrwydd y galon ddynol yn mynd yn ddwfn.”

Pam mai maddeuant oedd angen mwyaf yr un oedd wedi’i barlysu? Pa “anghenion” eraill dŷn ni’n teimlo eu bod yn ddyfnach na’n angen am faddeuant?

Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller

Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.

More

Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide