JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl
“Roedd rhaid i Iesu farw”
Drwy ddefnyddio’r gair rhaid, mae Iesu’n nodi ei fod yn bwriadu marw - ei fod yn gwneud o’i wirfodd. Nid dim ond rhagfynegi mae e, y bydd yn digwydd. Dyma sydd o bosib yn cynhyrfu Pedr fwyaf. Mae’n un peth i Iesu ddweud, “Bydda i’n ymladd ond yn cael fy nhrechu,” ac yn beth arall i ddweud, “Dw i wedi dod, a fy mwriad yw marw!” Mae hynny’n hollol anesboniadwy i Pedr.
Dyna pam mae Pedr yn ceryddu Iesu am ddweud hyn. Dyma’r ferf sy’n disgrifio beth wnaeth Iesu i ysbrydion drwg. Mae Pedr yn condemnio Iesu mewn iaith gref iawn. Pam fod Pedr wedi cynhyrfu gymaint mor fuan ar ôl ei gydnabod fel y Meseia? O pan oedd ar lin ei fam roedd Pedr bob amser wedi cael gwybod pan fyddai’r Meseia’n dod byddai’n trechu drygioni ac anghyfiawnder trwy esgyn i'r orsedd. Ond dyma Iesu'n dweud, “Ie, fi ydy'r Meseia, y Brenin, ond des i ddim i fyw ond i farw. Dydw i ddim yma i gymryd pŵer ond i'w golli; Dydw i ddim yma i reoli ond i wasanaethu. A dyna sut dw i'n mynd i drechu drygioni a chywiro popeth.”
Nid dim ond dweud wnaeth Iesu y byddai Mab y Dyn yn dioddef; dwedodd fod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef. Mae’r gair hwn mor hanfodol “rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy,,, bydd yn cael ei ladd.” Mae’r gair “rhaid” yn rheoli’r frawddeg gyfan, ac mae hynny’n golygu fod popeth yn angenrheidiol. Rhaid i Iesu ddioddef, cael ei wrthod, cael ei ladd, atgyfodi. Mae’r gair “rhaid” yn y stori, yn un o’r geiriau mwyaf allweddol yn y byd, ac yn air dychrynllyd. Nid dim ond dweud, “Dw i wedi dod i farw” wnaeth Iesu ond hefyd, “Mae’n rhaid imi farw, mae’n hollol angenrheidiol imi farw. Fedrith y byd ddim cael ei adnewyddu, na dy fywyd di ychwaith, heblaw fy mod yn marw.” Pam ei bod hi’n hollol angenrheidiol i Iesu farw?
Roedd Pedr yn ei chael hi’n anodd i weld pam fod rhaid i Iesu farw. Pam fod hyn mor anodd iddo e - ac i ni - ei dderbyn?
Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.
Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller
Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y berthynas rhwng ein bywydau a bywyd mab Duw, wrth arwain i fyny i'r Pasg. Mae JESUS THE KING yn lyfr a chanllaw astudiaeth ar gyfer grwpiau bach, ar gael mewn unrhyw siop lyfrau.
More
Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide